Am Chwaraeon Cymru

Yn Chwaraeon Cymru rydyn ni eisiau gweld cenedl iachach a mwy actif. Rydyn ni eisiau i bob person ifanc gael dechrau gwych mewn bywyd fel eu bod yn gallu mynd ymlaen i fwynhau oes o chwaraeon.  

Ni yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.   Ni yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pob math o chwaraeon ac rydyn ni’n cefnogi ei strategaethau, gan ddosbarthu cyllid i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.  

Rydyn ni hefyd yn dosbarthu grantiau’r Loteri Genedlaethol i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu, gan fuddsoddi mewn chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad.  

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar ein hathletwyr mwyaf addawol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.  

Darllenwch fwy am ein gwaith ni ar ein prif wefan.

Diweddarwyd diwethaf ar 18/12/2023