Am yr Adnoddau

Dros y ddau ddegawd diwethaf mae Chwaraeon Cymru a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a chwaraeon wedi gweithio i wneud cyfraniad cadarnhaol at roi’r hyder yn ogystal â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i athrawon ddarparu addysg gorfforol o safon uchel.

Wedi’u hysgogi gan fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, a rhaglenni cwricwlwm gwahanol, datblygwyd ystod o adnoddau a chyrsiau i ddarparu datblygiad proffesiynol addysg gorfforol (ac wedi hynny yn seiliedig ar lythrennedd corfforol) i athrawon ac ymarferwyr.

Roedd yr adnoddau’n torri tir newydd, yn seiliedig ar athroniaeth llythrennedd corfforol o ddatblygu hyder a chymhelliant yn ogystal â chymhwysedd corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr ond hefyd athrawon ac ymarferwyr.

Y canlyniad?

Adnoddau sy’n parhau i chwarae rhan mewn gwneud gwahaniaeth a chyfraniad at addysgu addysg gorfforol o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad ehangach Iechyd a Lles (MDaPh IaLl). Ond nid yw’n ymwneud ag addysgu yn unig. Mae’r adnoddau’n hynod berthnasol i hyfforddwyr, rhieni ac unrhyw un arall sy’n darparu profiadau chwaraeon a datblygu sgiliau i bobl ifanc.

Mae mwynhad oes person o chwaraeon yn seiliedig ar y sylfaen orau drwy ddysgu sgiliau bywyd fel person ifanc.

Mae’r platfform hwn yn darparu’r blociau adeiladu ar gyfer mwynhad gydol oes o chwaraeon.

Diweddarwyd diwethaf ar 18/12/2023