Polisi Preifatrwydd

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol. Rydym am rannu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r gwasanaethau a ddarparwn. 

Mae ein polisi (ynghyd â thelerau defnyddio ein gwefan, ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddynt) yn nodi ar ba sail y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni. 

Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein harferion o ran eich data personol a sut y byddwn yn ei brosesu. 

Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â’r wefan hon) rydych yn derbyn ac yn cydsynio i’r arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn.

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ((UE) 2016/679) (GDPR), y rheolydd data yw CYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru: Z5769715.

Polisïau Preifatrwydd Chwaraeon Cymru.

Diweddarwyd diwethaf ar 22/02/2024