Telerau Gwasanaeth

Er mwyn i chi gael mynediad i borth Citbag, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n defnyddwyr gytuno i’n telerau gwasanaeth.

Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn deall sut rydym yn defnyddio eich data a sut dylech ryngweithio â’r platfform.

Sut Rydym Yn Defnyddio Eich Data

Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif Citbag rydych chi’n cytuno i’r canlynol: 

https://www.sport.wales/privacy/

Os hoffech chi drafod sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ymhellach, anfonwch e-bost i dpo@sport.wales

Pa Wybodaeth Ydym Yn Ei Defnyddio?

Byddwn yn defnyddio:

Gyda Phwy Rydym Yn Rhannu Eich Data?

Er mwyn ein galluogi i weithredu’r Porth Adnoddau Addysg byddwn yn rhannu gwybodaeth ag Empyrean Digital, ein darparwr gwasanaeth gwe. Gallwch gael gwybod mwy am sut mae ein partneriaid yn defnyddio eich gwybodaeth isod:

Empyrean Digital

Am Faint Fyddwch Chi’n Cadw Fy Nata?

Bydd data sy’n cael eu casglu ar gyfer eich Cyfrif Citbag yn cael eu cadw gan Chwaraeon Cymru am oes y rhaglen. 

Beth yw fy hawliau? 

Mae gennych yr hawl i gael eich gwybodaeth wedi’i diweddaru/chywiro, cael cofnod o’ch gwybodaeth, a’r hawl i gael dileu’r holl wybodaeth yn barhaol, oni bai fod gan Chwaraeon Cymru hawl gyfreithlon i gadw cofnod i fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol (fel cofnodion talu).

Gallwch gysylltu ar COMMUNICATIONS@SPORT.WALES ar unrhyw adeg i wneud  cais i’ch cyfrif a’r data cysylltiedig gael eu dileu.

Rhyngweithio Gyda’r Cynnwys Adnoddau Addysg

Bydd cofrestru i gael cyfrif yn rhoi mynediad i chi i gynnwys sydd ar gael i aelodau yn unig am ddim.

Mae cyfyngu’r cynnwys i ddefnyddwyr gyda chyfrif yn ein helpu i barhau i weithredu’r rhaglen ac i sicrhau’r rhaglen orau ar gyfer ein defnyddwyr.

Ni ddylech rannu cynnwys gydag eraill drwy gysylltu â fideos neu drwy gopïo a gludo deunydd ysgrifenedig.

Drwy gofrestru ar gyfer cyfrif a chael mynediad at yr adnoddau, rydych chi’n gwneud y canlynol:

Diweddarwyd diwethaf ar 18/12/2023