{"id":3592,"date":"2022-05-18T10:52:04","date_gmt":"2022-05-18T09:52:04","guid":{"rendered":"https:\/\/near-quartz.flywheelsites.com\/?page_id=3592"},"modified":"2022-06-29T10:57:53","modified_gmt":"2022-06-29T09:57:53","slug":"smiles","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/","title":{"rendered":"SMILES"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Diogel<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Amgylchedd Corfforol Diogel<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y man chwarae &#8211; a yw&#8217;n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon baglu<\/li><li>Mae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwarae<\/li><li>Mae&#8217;r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy&#8217;n rhydd o beryglon ac sy&#8217;n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy&#8217;n digwydd<\/li><li>Mae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogel<\/li><li>Mae&#8217;r ardal chwarae yn ddigon mawr ar gyfer y gweithgaredd, gyda ffiniau clir y gall y plant eu dangos<\/li><li>Mae cyfeiriad y chwarae, yn enwedig ar gyfer gemau taro, ymhell oddi wrth gyfranogwyr eraill<\/li><li>Offer yn cael ei storio&#8217;n ddiogel i ffwrdd o&#8217;r man chwarae<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Amgylchedd Emosiynol Diogel<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae&#8217;r plant yn adnabod amgylchedd emosiynol diogel a chefnogol<\/li><li>Mae pob plentyn, heb ystyried ei rywedd, ei gefndir cymdeithasol-economaidd a diwylliannol, yn teimlo&#8217;n ddiogel i gymryd rhan a chyfrannu.<\/li><li>Rheolau sylfaenol \u2013 wedi&#8217;u cytuno (yn ddelfrydol wedi&#8217;u creu) gan y plant i sicrhau ymdeimlad o berthyn<\/li><li>Mae\u2019r plant yn teimlo\u2019n gyfforddus ac yn hyderus wrth gynnig syniadau a barn i sicrhau cynnydd<\/li><li>Anogwch y plant i wneud y canlynol:<\/li><li>Eu helpu i baratoi\u2019r rheolau sylfaenol a gwneud yn si\u0175r eu bod hwy ac eraill yn cadw atynt<\/li><li>Eglurwch sut mae&#8217;r rheolau sylfaenol yn helpu i gadw&#8217;r gweithgareddau&#8217;n ddiogel ac yn hwyl<\/li><li>Ysgwyddo cyfrifoldeb am sicrhau eu bod yn barod i chwarae&#8217;n ddiogel. Carrai esgidiau wedi&#8217;u clymu, gemwaith wedi&#8217;i dynnu<\/li><li>Helpu i estyn yr offer. Pan nad yw&#8217;n cael ei ddefnyddio, cadwch ef yn ddiogel ac yn glir o&#8217;r man chwarae<\/li><li>Cadw offer yn ddiogel ar ddiwedd y tymor<\/li><li>Adnabod materion diogelwch posibl ac awgrymu atebion<\/li><li>Rhoi gwybod am unrhyw offer sydd wedi torri neu wedi&#8217;i ddifrodi<\/li><li>Parchu cyfraniad eich gilydd a chynnig cefnogaeth ac anogaeth<\/li><li>Helpu i wirio bod y man chwarae yn l\u00e2n ac yn glir<\/li><li>Gwerthfawrogi gwahaniaeth a dathlu llwyddiant pawb<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfranogiad Uchafswm<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Paratowch bopeth ar gyfer chwarae cyn i&#8217;r plant gyrraedd<\/li><li>Cadwch yr esboniadau&#8217;n fyr iawn \u2013 gadewch i ni ddechrau chwarae<\/li><li>Dechreuwch gyda chynhesu graddol, gan baratoi\u2019r meddwl a\u2019r corff ar gyfer sesiwn actif llawn hwyl<\/li><li>Defnyddiwch y lluniau ar y cardiau i ddangos i&#8217;r plant beth maen nhw&#8217;n mynd i fod yn ei wneud. Mae llun yn dweud mil o eiriau.<\/li><li>Torri ar draws dim ond pan fo angen<\/li><li>Gwyliwch bob unigolyn \u2013 oes rhywun yn cael ei adael allan? Sut gallwch chi ei helpu i ymuno a bod yn llwyddiannus?<\/li><li>Byddwch yn barod i addasu cyflymder y gweithgaredd os yw&#8217;r plant yn gorweithio<\/li><li>Rhannwch grwpiau mwy yn grwpiau llai fel bod pawb yn cael cyfle i fod yn actif drwy&#8217;r amser<\/li><li>Os oes angen i blant aros eu tro \u2013 beth allant ei wneud yn y ciw? Er enghraifft, gosodwch lwybr neu gwrs rhwystrau a fydd yn golygu ei bod yn cymryd amser iddynt deithio i fynd yn \u00f4l i ddechrau&#8217;r g\u00eam. Neu sefydlu her neu weithgaredd y gallant ei wneud tra maent yn aros &#8211; targedau; cydbwysedd; siapiau; taflu a dal gyda phartner<\/li><li>Mae cyfranogiad yn golygu meddwl yn ogystal \u00e2 chwarae \u2013 gofynnwch i&#8217;r plant am eu syniadau i ddatblygu&#8217;r g\u00eam; efallai y gallant helpu ei gilydd i fod yn llwyddiannus<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anogwch y plant i wneud y canlynol:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Paratoi i chwarae ar unwaith \u2013 gwrando a gwylio wrth i chi egluro\u2019r gweithgaredd (mewn cyn lleied o eiriau \u00e2 phosib)<\/li><li>Creu eu gweithgareddau eu hunain i\u2019w \u2018gwneud yn y ciw\u2019, os nad oes dewis arall iddynt orfod aros am dro<\/li><li>Cadw at y rheolau sylfaenol fel bod cyn lleied \u00e2 phosibl o darfu ar y gemau a&#8217;r gweithgareddau<\/li><li>Datrys problemau a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain \u2013 fel eu bod yn gallu parhau i chwarae heb orfod aros am help<\/li><li>Siarad am y newidiadau yn eu cyrff wrth iddynt ddod yn actif \u2013 teimlo&#8217;n boeth ac anadlu llawer<\/li><li>Meddwl am y ffordd maent yn teimlo ar \u00f4l bod yn actif a chwarae. Mae\u2019n bosibl y byddant yn dweud eu bod yn teimlo\u2019n llawn egni, yn hapusach, yn dawelach, yn llwyddiannus, ymdeimlad o gyflawni \u2013 yn ogystal \u00e2 bod yn flinedig.<\/li><li>Adnabod a siarad am eu stamina yn gwella a mwy o ddygnedd&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cymryd rhan<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwnewch y sesiynau yn blentyn-ganolog \u2013 mae plant yn unigolion, gydag enwau \u2013 defnyddiwch nhw<\/li><li>Siaradwch gyda&#8217;r plant am yr hyn maent yn ei wneud \u2013 a gwrandewch ar yr hyn maent yn ei ddweud<\/li><li>Anogwch y plant i ffurfio perthynas gyda\u2019i gilydd, yn ogystal \u00e2 chi<\/li><li>Gofynnwch gwestiynau \u2013 peidiwch \u00e2 rhoi&#8217;r atebion bob amser \u2013 mae plant wrth eu bodd yn dod o hyd i atebion gyda&#8217;u syniadau eu hunain<\/li><li>Rhowch ddewisiadau i&#8217;r plant \u2013 pa b\u00eal, pa ofod, pa bartner, pa weithgaredd?<\/li><li>Hyfforddiant sgwrsio<ul><li>Anogwch y plant i siarad am yr hyn maent yn ei wneud<\/li><li>Beth allant ei wneud<\/li><\/ul><ul><li>Beth gallent geisio ei wneud yn wahanol<\/li><\/ul><ul><li>Sut maent yn perfformio<\/li><\/ul><ul><li>Pa dargedau maent wedi&#8217;u gosod iddynt eu hunain<\/li><\/ul><ul><li>Beth maent yn bwriadu ei wneud nesaf i wella<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae plant yn unigolion \u2013 pob un \u00e2&#8217;i allu, ei nodau, ei gyfradd cynnydd, ei hoff a chas bethau a&#8217;i hunan-gred ei hun.<\/li><li>Gofynnwch i&#8217;r plant am eu syniadau ar gyfer gwneud gweithgaredd yn haws, yn anoddach, yn fwy diogel neu am ffyrdd o newid y rheolau i gynnwys pawb.<\/li><li>Dathlwch eu cyflawniadau fel unigolion<\/li><li>Anogwch y plant i ysgwyddo sawl r\u00f4l a chyfrifoldeb \u2013 cydweithio a chefnogi ei gilydd; cadw sg\u00f4r, defnyddio rheolau, paratoi a chlirio &nbsp;<\/li><li>Bydd hyd yn oed plant ifanc iawn yn gallu adlewyrchu ar y sesiwn \u2013 y pethau oedd yn ei wneud yn hwyl; yr hyn wnaethant yn dda; beth sydd angen iddynt ei ymarfer a beth hoffent ei wneud y tro nesaf \u2013 byddwch yn barod am adborth gonest!<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anogwch y plant i wneud y canlynol:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dewis:<ul><li>Gyda phwy maent eisiau chwarae<\/li><li>Beth maent eisiau ei chwarae<\/li><li>Pa offer fydd yn eu helpu i fod yn llwyddiannus<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwneud penderfyniadau am ffyrdd o newid y gweithgaredd i&#8217;w wneud yn haws, yn anoddach, i gynnwys pawb neu i&#8217;w helpu i wneud cynnydd<\/li><li>Cymryd rhan ar lefel sy&#8217;n briodol iddynt hwy i ddod o hyd i atebion i broblemau a rhoi cynnig ar eu syniadau eu hunain<\/li><li>Cynnydd ar gyflymder sy&#8217;n briodol iddynt hwy fel unigolion<\/li><li>Siarad am yr hyn maent yn ei ddysgu<\/li><li>Cyfrannu at adolygu&#8217;r sesiwn<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dysgu yn Digwydd<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Darganfyddwch beth all pob plentyn ei wneud<\/li><li>Siaradwch \u00e2\u2019r plant am yr hyn y gallant ei wneud a\u2019r hyn maent eisiau ei wneud \u2013 gan eu hannog i asesu eu gallu a phennu targedau i wella<\/li><li>Camwch yn \u00f4l ac arsylwi \u2013 beth sydd angen iddynt ei wneud yn wahanol efallai?<\/li><li>Defnyddiwch STEPS \u2013 cyflwyno newidiadau yn raddol i helpu&#8217;r plentyn i fod yn llwyddiannus ac i wneud cynnydd<\/li><li>Gofynnwch iddynt am y newidiadau yr hoffent eu gwneud a pham<\/li><li>Cynlluniwch weithgareddau sy&#8217;n helpu plant i ddefnyddio eu sgiliau a&#8217;u gwybodaeth am:<ul><li>Chwarae ar eu pen eu hunain<\/li><li>Gweithio gyda phartner neu mewn gr\u0175p bychan<\/li><li>Cynyddu dwyster y gweithgaredd; y gofod, targedau neu amser; newid yr offer; newid maint y targedau; maint y rhwystr \u2013 meddyliwch am STEPS<\/li><li>Dysgu drwy ddatrys problemau<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rhowch adborth i blant ar gynnydd \u2013 a gofynnwch iddynt am eu hadborth hefyd<\/li><li>Anogwch y plant i siarad am yr hyn maent wedi&#8217;i ddysgu<\/li><li>Sefydlwch \u2018grwpiau cyferbyniol\u2019 o blant abl a llai abl a all helpu ei gilydd i ddysgu<\/li><li>Meddyliwch am y dysgu ehangach sy&#8217;n digwydd:<ul><li>Cyfathrebu a chydweithio<\/li><li>Chwarae teg a chyfeillgarwch<\/li><li>Cynllunio, cynnydd a datrys problemau<\/li><li>Cyrff iach, meddyliau iechyd<\/li><li>Llwyddiant, hunan-barch a hunanhyder<\/li><li>Parch at ein gilydd a pharch at y rheolau<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anogwch y plant i wneud y canlynol:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwneud cynnydd ar gyflymder a lefel sy&#8217;n briodol iddynt hwy<\/li><li>Gosod eu her eu hunain \u2013 cyn belled \u00e2\u2019i bod yn gyraeddadwy \u2013 a dathlu llwyddiant pan fyddant yn ei gyflawni<\/li><li>Dadansoddi drostynt eu hunain y pethau sy&#8217;n eu gwneud yn llwyddiannus. Beth wnaethoch chi&#8217;n wahanol a wnaeth eich helpu i lwyddo?<\/li><li>Siaradwch am yr hyn maent yn ei wneud i&#8217;w helpu i ddadansoddi&#8217;r hyn y mae angen iddynt ei wneud yn wahanol &#8211; gofynnwch gwestiynau iddynt &#8211; byddant yn rhoi&#8217;r atebion i chi<\/li><li>Siaradwch am sut maent yn teimlo am yr hyn maent yn ei wneud. Mae Llythrennedd Corfforol yn ymwneud \u00e2 hyder, cymhelliant, gwybodaeth, dealltwriaeth yn ogystal \u00e2 sgil \u2013 gofynnwch y cwestiynau sy\u2019n eu helpu i ddadansoddi\u2019r pethau hyn.<\/li><li>Gwnewch gamgymeriadau a dysgu oddi wrthynt, heb ofni beirniadaeth na bai<\/li><li>Adnabod yr hyn y gallant a&#8217;r hyn na allant ei wneud. Byddwch yn onest yn eich canmoliaeth a\u2019ch adborth \u2013 mae\u2019n bwysig eu bod yn meithrin \u2018cred fewnol\u2019 \u2013 ond mae anogaeth yn amhrisiadwy &#8211; yn y lle iawn ar yr amser iawn<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mwynhad<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Bydd plant yn:<ul><li>Awyddus i gymryd rhan, yn llawn egni, yn gwenu ac yn sgwrsio<\/li><li>Eisiau dal ati i chwarae, hyd yn oed pan mae\u2019n amser stopio<\/li><li>Barod i roi cynnig ar heriau newydd ac yn barod i wneud camgymeriadau, gan wybod eu bod mewn amgylchedd dysgu diogel<\/li><li>Gallu dweud wrth drefnwyr ac wrth ei gilydd beth oedd yn gwneud y sesiwn yn hwyl ac yn bleserus<\/li><li>Cymryd eu harweiniad gennych chi \u2013 os ydych yn gwenu, yn actif, yn frwdfrydig ac yn eu rhoi hwy yn ganolog \u2013 byddant yn ymateb mewn ffordd debyg<\/li><li>Cymryd rhan a siarad am yr hyn maent yn ei wneud<\/li><li>Ymddwyn mewn ffordd gadarnhaol gyda ffocws<\/li><li>Barod i rannu a chydweithio ag eraill, gan helpu plant eraill i lwyddo<\/li><li>Penderfynol o ddal ati<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anogwch y plant i wneud y canlynol:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dewis gyda phwy maent eisiau chwarae. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn rhoi cyfle i blant chwarae gyda&#8217;u ffrindiau a chymdeithasu<\/li><li>Gosod targedau y gallant eu cyrraedd, gydag ychydig o ymdrech<\/li><li>Gwneud eu penderfyniadau eu hunain yngl\u0177n ag addasu&#8217;r gweithgaredd os ydynt yn cael anhawster neu ei wneud yn fwy heriol os ydynt yn ei gael yn rhy hawdd<\/li><li>Penderfynu beth hoffent ei wneud ac wedyn anogwch hwy i symud ymlaen a datblygu&#8217;r g\u00eam pan fyddant yn barod. Mae plant yn hoffi pa mor gyfarwydd yw&#8217;r gemau a&#8217;r gweithgareddau y maent eisoes wedi&#8217;u chwarae<\/li><li>Dweud wrthych chi beth wnaethant ei fwynhau am y sesiwn a beth oedd yn ei wneud yn hwyl \u2013 wedyn cofiwch hynny a gwneud yr un peth y tro nesaf<\/li><li>Bod yn greadigol \u2013 gwrandewch ar eu syniadau am wahanol ffyrdd o chwarae<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Llwyddiant<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd plant yn llwyddo os bydd y canlynol yn wir:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gweithgareddau\u2019n cael eu hanelu at y lefel briodol ar gyfer pob plentyn \u2013 maent yn unigryw!<\/li><li>Gweithgaredd yn cael ei addasu fel bod pob plentyn yn \u2018gallu ei wneud\u2019 \u2013 ond gallai hyn edrych yn wahanol i bob plentyn<\/li><li>Y trefnwyr yn cydnabod ac yn rhoi sylwadau ar gyflawniad \u2013 waeth pa mor fach<\/li><li>Maent yn:<ul><li>Cael eu hannog i osod eu targedau (heriol) eu hunain ac maent yn dyfalbarhau nes iddynt lwyddo<\/li><li>Credu drostynt eu hunain eu bod yn \u2018gallu ei wneud\u2019 \u2013 y gred a\u2019r cymhelliant cynhenid \u200b\u200bsy\u2019n dod o\u2019r tu mewn, yn hytrach na thrwy ganmoliaeth ac adborth allanol<\/li><li>Cael eu hannog i adlewyrchu ar y cynnydd maent yn ei wneud ac i ddathlu eu cyflawniadau, yn onest ac yn deg<\/li><li>Teimlo&#8217;n ddiogel ac yn barod i ddysgu o gamgymeriadau heb ofni bai na beirniadaeth<\/li><li>Cael eu hannog i weithio gydag eraill mewn grwpiau gwahanol fel eu bod yn cydweithredu i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion<\/li><\/ul><\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae llwyddiant yn magu llwyddiant \u2013 bydd dyheadau plant yn cynyddu drwy brofi llwyddiant<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anogwch y plant i wneud y canlynol:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Addasu\u2019r gweithgaredd drostynt eu hunain \u2013 yn nes at, ymhellach oddi wrth, ar eu pen eu hunain, gyda phartner, targed mwy, targed llai, offer gwahanol, cyflymach, arafach\u2026<\/li><li>Bod yn greadigol a rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o wneud pethau i ddysgu beth sy&#8217;n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio<\/li><li>Adnabod a siarad am y cynnydd maent yn ei wneud<\/li><li>Defnyddio eu sgiliau newydd mewn llawer o wahanol ffyrdd \u2013 yr un sgil \u2013 her wahanol<\/li><li>Chwarae mewn gwahanol grwpiau:<ul><li>Parau neu grwpiau<\/li><li>plant ag anghenion tebyg<\/li><li>diddordebau a galluoedd<\/li><li>Parau neu grwpiau cymysg<\/li><li>Parau neu grwpiau cyferbyniol lle mae plant dawnus yn gweithio gyda&#8217;r rhai y mae eu sgiliau&#8217;n datblygu. Mae plant wrth eu bodd yn dysgu oddi wrth blant eraill <\/li><\/ul><\/li><li>Siarad am y pethau maent yn eu gwneud yn dda a sut gwnaethant lwyddo &#8211; gallant wedyn gymhwyso eu dysgu i&#8217;r her nesaf<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae &#8211; a yw&#8217;n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon baglu Mae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwarae Mae&#8217;r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy&#8217;n rhydd o beryglon ac sy&#8217;n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy&#8217;n digwydd Mae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogel Mae&#8217;r ardal chwarae yn ddigon mawr ar gyfer y gweithgaredd, gyda ffiniau clir y gall y plant eu dangos Mae cyfeiriad y chwarae, yn enwedig ar gyfer gemau taro, ymhell oddi wrth gyfranogwyr eraill Offer yn cael ei storio&#8217;n ddiogel i ffwrdd o&#8217;r man chwarae Amgylchedd Emosiynol Diogel Mae&#8217;r plant yn adnabod amgylchedd emosiynol diogel a chefnogol Mae pob plentyn, heb ystyried ei rywedd, ei gefndir cymdeithasol-economaidd a diwylliannol, yn teimlo&#8217;n ddiogel i gymryd rhan a chyfrannu. Rheolau sylfaenol \u2013 wedi&#8217;u cytuno (yn ddelfrydol wedi&#8217;u creu) gan y plant i sicrhau ymdeimlad o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-3592","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"aioseo_notices":[],"aioseo_head":"\n\t\t<!-- All in One SEO 5.0.3 - aioseo.com -->\n\t<meta name=\"description\" content=\"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw&#039;n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae&#039;r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy&#039;n rhydd o beryglon ac sy&#039;n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy&#039;n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae&#039;r ardal\" \/>\n\t<meta name=\"robots\" content=\"max-image-preview:large\" \/>\n\t<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/\" \/>\n\t\t<meta name=\"generator\" content=\"All in One SEO (AIOSEO) 5.0.3\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:site_name\" content=\"Sport Wales Educational Resources -\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:title\" content=\"SMILES - Sport Wales Educational Resources\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:description\" content=\"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw&#039;n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae&#039;r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy&#039;n rhydd o beryglon ac sy&#039;n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy&#039;n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae&#039;r ardal\" \/>\n\t\t<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/\" \/>\n\t\t<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-05-18T09:52:04+00:00\" \/>\n\t\t<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-06-29T09:57:53+00:00\" \/>\n\t\t<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n\t\t<meta name=\"twitter:title\" content=\"SMILES - Sport Wales Educational Resources\" \/>\n\t\t<meta name=\"twitter:description\" content=\"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw&#039;n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae&#039;r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy&#039;n rhydd o beryglon ac sy&#039;n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy&#039;n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae&#039;r ardal\" \/>\n\t\t<script type=\"application\/ld+json\" class=\"aioseo-schema\">\n\t\t\t{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/smiles\\\/#breadcrumblist\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/#listItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/\",\"nextItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/smiles\\\/#listItem\",\"name\":\"SMILES\"}},{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/smiles\\\/#listItem\",\"position\":2,\"name\":\"SMILES\",\"previousItem\":{\"@type\":\"ListItem\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/#listItem\",\"name\":\"Home\"}}]},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Sport Wales Educational Resources\",\"url\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/smiles\\\/#webpage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/smiles\\\/\",\"name\":\"SMILES - Sport Wales Educational Resources\",\"description\":\"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw'n l\\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae'r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy'n rhydd o beryglon ac sy'n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy'n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\\u2019n ddiogelMae'r ardal\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/#website\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/smiles\\\/#breadcrumblist\"},\"datePublished\":\"2022-05-18T10:52:04+01:00\",\"dateModified\":\"2022-06-29T10:57:53+01:00\"},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Sport Wales Educational Resources\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/citbag.sport.wales\\\/cy\\\/#organization\"}}]}\n\t\t<\/script>\n\t\t<!-- All in One SEO -->\n\n","aioseo_head_json":{"title":"SMILES - Sport Wales Educational Resources","description":"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw'n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae'r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy'n rhydd o beryglon ac sy'n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy'n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae'r ardal","canonical_url":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/","robots":"max-image-preview:large","keywords":"","webmasterTools":{"miscellaneous":""},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/#breadcrumblist","itemListElement":[{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/#listItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/","nextItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/#listItem","name":"SMILES"}},{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/#listItem","position":2,"name":"SMILES","previousItem":{"@type":"ListItem","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/#listItem","name":"Home"}}]},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/#organization","name":"Sport Wales Educational Resources","url":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/#webpage","url":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/","name":"SMILES - Sport Wales Educational Resources","description":"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw'n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae'r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy'n rhydd o beryglon ac sy'n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy'n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae'r ardal","inLanguage":"cy-GB","isPartOf":{"@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/#website"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/#breadcrumblist"},"datePublished":"2022-05-18T10:52:04+01:00","dateModified":"2022-06-29T10:57:53+01:00"},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/#website","url":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/","name":"Sport Wales Educational Resources","inLanguage":"cy-GB","publisher":{"@id":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/#organization"}}]},"og:locale":"cy_GB","og:site_name":"Sport Wales Educational Resources -","og:type":"article","og:title":"SMILES - Sport Wales Educational Resources","og:description":"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw'n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae'r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy'n rhydd o beryglon ac sy'n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy'n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae'r ardal","og:url":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/","article:published_time":"2022-05-18T09:52:04+00:00","article:modified_time":"2022-06-29T09:57:53+00:00","twitter:card":"summary_large_image","twitter:title":"SMILES - Sport Wales Educational Resources","twitter:description":"Diogel Amgylchedd Corfforol Diogel Y man chwarae - a yw'n l\u00e2n, yn glir o rwystrau a pheryglon bagluMae digon o le i dd\u0175r ffo o amgylch y mannau chwaraeMae'r plant yn adnabod amgylchedd diogel sy'n rhydd o beryglon ac sy'n briodol ar gyfer y gweithgaredd sy'n digwyddMae eiddo personol yn cael ei gadw\u2019n ddiogelMae'r ardal"},"aioseo_meta_data":{"post_id":"3592","title":null,"description":null,"keywords":null,"keyphrases":null,"primary_term":null,"canonical_url":null,"og_title":null,"og_description":null,"og_object_type":"default","og_image_type":"default","og_image_url":null,"og_image_width":null,"og_image_height":null,"og_image_custom_url":null,"og_image_custom_fields":null,"og_video":null,"og_custom_url":null,"og_article_section":null,"og_article_tags":null,"twitter_use_og":false,"twitter_card":"default","twitter_image_type":"default","twitter_image_url":null,"twitter_image_custom_url":null,"twitter_image_custom_fields":null,"twitter_title":null,"twitter_description":null,"schema":{"blockGraphs":[],"customGraphs":[],"default":{"data":{"Article":[],"Course":[],"Dataset":[],"FAQPage":[],"Movie":[],"Person":[],"Product":[],"ProductReview":[],"Car":[],"Recipe":[],"Service":[],"SoftwareApplication":[],"WebPage":[]},"graphName":"","isEnabled":true},"graphs":[],"defaultGraph":"","defaultPostTypeGraph":""},"schema_type":"default","schema_type_options":null,"pillar_content":false,"robots_default":true,"robots_noindex":false,"robots_noarchive":false,"robots_nosnippet":false,"robots_nofollow":false,"robots_noimageindex":false,"robots_noodp":false,"robots_notranslate":false,"robots_max_snippet":null,"robots_max_videopreview":null,"robots_max_imagepreview":"large","priority":null,"frequency":null,"local_seo":null,"breadcrumb_settings":null,"limit_modified_date":false,"ai":null,"created":"2022-07-25 11:32:06","updated":"2025-06-10 06:11:13","seo_analyzer_scan_date":null,"focus_keyword":null,"additional_keywords":null,"truseo_locale":null},"aioseo_breadcrumb":"<div class=\"aioseo-breadcrumbs\"><span class=\"aioseo-breadcrumb\">\n\t\t\t<a href=\"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/\" title=\"Home\">Home<\/a>\n\t\t<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb-separator\">&gt;<\/span><span class=\"aioseo-breadcrumb\">\n\t\t\tSMILES\n\t\t<\/span><\/div>","aioseo_breadcrumb_json":[{"label":"Home","link":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/"},{"label":"SMILES","link":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/smiles\/"}],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3592","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3592"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3592\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/citbag.sport.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3592"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}