Neidio i'r prif gynnwys
Gofod
- Gwnewch yn siŵr bod maint y gofod yn briodol
- Lefel (uchder) e.e. mae gan gemau ar y llawr ofynion gwahanol i weithgaredd sy’n gofyn i blant symud o gwmpas y gofod yn fwy
- Gofod personol a gofod grŵp
- Maint yr ardal waith, lefel, llwybr, cyfeiriad, pellter a deithir
- Pellter oddi wrth bartner
- Ardal darged lai/mwy
- Defnydd o ardal chwarae o barthau i greu ardaloedd diogel mewn gemau dal neu dagio e.e. ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn / fframiau
- Defnyddio gerddi / gridiau fel ardaloedd i weithio ynddynt. Yn cadw ardaloedd yn rhydd rhag rhwystrau. Gwnewch yn siŵr bod y gerddi wedi’u marcio’n glir
- Caniatáu i rai plant ddechrau ar adegau gwahanol neu o lefydd gwahanol
Tasg
- Gwnewch yn siŵr nad yw’r iaith a ddefnyddiwch wrth osod tasgau a gofyn cwestiynau yn atal unrhyw ddisgybl rhag profi llwyddiant e.e. symud / teithio (yn lle rhedeg)
- Haws – symleiddio’r gêm, rhannu’r sgil yn adrannau
- Anoddach – cyflwyno mwy o reolau, sgiliau anoddach, cynyddu cydsymudiad, cydbwysedd, ystwythder
- Cymhlethdod y dasg, ymateb i’r ystod o giwiau / signalau
- Tasgau / dewis penagored / caeedig ar gyfer dysgwyr
- Cylchdroi rôl / dyrannu rôl benodol fel bod gan bawb gyfle cyfartal i gymryd rhan
- Annog disgyblion i wneud penderfyniadau a phennu targedau
- Hyd / cyflymder y gweithgaredd / goddefgarwch i ymarfer, cyfnodau gorffwys
Offer
- Gwnewch yn siŵr bod y disgyblion yn cael ystod o offer / cyfarpar priodol
- Defnyddiwch amrywiaeth o feintiau, pwysau, gweadau, siapiau, lliwiau sy’n addas ar gyfer gallu’r grŵp
- Defnyddiwch offer cyflymder arafach
- Addaswch hyd handlen y bat neu’r ffon
- Ystyriwch offer anhraddodiadol, llithrennau; gwterydd, rhwydi dal, targedau tipio, peli cloch ac ati
Pobl
- Gwnewch yn siŵr bod strategaethau grwpio yn hybu ac yn gwella dysgu drwy barchu tebygrwydd a gwahaniaethau unigol
- Unigol, mewn pâr, fel pâr, mewn grŵp, fel grŵp
- Ystyried cystadleuaeth e.e. 4v4 neu 4v2 i gynnwys / herio
- Gallu, rhywedd, maint, nifer, perthynas, agwedd
- Lleoliad gyda’ch gilydd gilydd, rôl pawb • Cyfrifoldebau, gyda chefnogaeth, heb gefnogaeth
Diweddarwyd diwethaf ar 28/06/2022