Camau cynnydd
Mae dysgu a chynnydd yn mynd law yn llaw. Mae cynnydd yn fap ffordd ar gyfer pob unigolyn a gallant symud ymlaen ar gyflymder gwahanol neu ddilyn llwybr gwahanol i gyrraedd y cam nesaf.
Mae cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu eu hyder, eu cymhelliant a’u cymhwysedd mewn sgil, gan ddatblygu manwl gywirdeb a hyfedredd cynyddol dros amser.
Mae’r adnoddau ar Citbag yn cefnogi dull o weithredu sy’n canolbwyntio ar gyfnod datblygu nid oedran drwy gyflwyno adnoddau hyblyg a chynhwysol sy’n darparu ar gyfer lefelau sgiliau a diddordebau amrywiol. Mae cynnydd sgiliau’n galluogi dysgwyr i feistroli’r sgil symud sylfaenol cyn symud ymlaen i dechnegau cymhlethach, gan sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain.
Cliciwch ar y camau isod i ddod o hyd i’r sgiliau symud sylfaenol a’r gweithgareddau a fydd yn helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn mewn ffordd hwyliog, ddiogel a phriodol.

Cam 1
Wrth i ni ddatblygu
Bydd gan ddisgyblion yr hyder a'r cymhelliant i symud mewn gwahanol ffyrdd.
Gweld Cam
Cam 2
Wrth i ni wella
Bydd disgyblion yn defnyddio ac yn gwella sgiliau symud sylfaenol mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Gweld Cam
Cam 3
Wrth i ni ddod yn fwy medrus
Bydd disgyblion yn datblygu ac yn defnyddio ystod o sgiliau mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a chyfnewidiol, gan archwilio gofod yn greadigol mewn ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau.
Gweld Cam
Cam 4
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Bydd disgyblion yn trosglwyddo ystod o sgiliau symud o sefyllfaoedd ac amgylcheddau cyfarwydd i rai anghyfarwydd a chyfnewidiol, gan ddefnyddio gofod yn greadigol mewn ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau.
Gweld Cam
Cam 5
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau
Bydd y disgyblion yn addasu yn annibynnol ac yn defnyddio sgiliau symud ar draws ystod o weithgareddau ac amgylcheddau, gan reoli gofod yn greadigol mewn ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau.
Gweld Cam