Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar y parth citbag.sport.wales. I gael gwybodaeth am Chwaraeon Cymru, gan gynnwys Datganiad Hygyrchedd Chwaraeon Cymru, ewch i www.sport.wales.
Mae’r wefan hon yn cael ei gweithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru). Mae wedi’i chynllunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:
- chwyddo hyd at 300% heb broblemau
- defnyddio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- newid y dudalen i fodd cyferbyniad uchel, modd graddfa lwyd neu fodd lliwiau gwrthdro.
- defnyddio’r canfyddwr cyswllt i leoli pob dolen ar y dudalen drwy faes dethol syml
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
MESURAU I GEFNOGI HYGYRCHEDD
Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu’r mesurau canlynol i sicrhau hygyrchedd y wefan hon gan Chwaraeon Cymru:
- Integreiddio hygyrchedd yn ein harferion caffael.
- Darparu hyfforddiant hygyrchedd i’n staff.
- Adolygu a diweddaru cynnwys yn rheolaidd.
RYDYM HEFYD YN CEISIO SICHRAU’R CANLYNOL:
- Mae pob llun ar ein safleoedd yn cynnwys testun amgen priodol.
- Mae pob elfen ryngweithiol o’r wefan yn bosibl ei chyrraedd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy lywio bysellfwrdd.
- Mae’r elfennau rhyngweithiol yn newid arddull pan gânt eu hofran gyda’r llygoden neu eu ffocysu drwy lywio bysellfwrdd.
- Mae pob lliw blaendir a chefndir yn cael eu gwirio i sicrhau cyferbyniad digonol, neu rhoddir testun amgen yn achos lluniau.
- Mae ein cynnwys wedi’i ysgrifennu’n glir, yn gryno, heb jargon ac mewn Cymraeg a Saesneg clir.
- Mae pob tudalen yn defnyddio penawdau mewn ffordd resymegol a threfnus.
- Mae’n hawdd dod o hyd i bob ‘cais am weithredu’.
GWYBODAETH DECHNEGOL AM HYGYRCHEDD Y WEFAN HON
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
STATWS CYDYMFFURFIO
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1.
CYNNWYS ANHYGYRCH
CYNNWYS NAD YW O FEWN CWMPAS Y RHEOLIADAU HYGYRCHEDD
Cynhyrchion a gwefannau trydydd parti
Mae’n bosibl y bydd angen defnyddio meddalwedd trydydd parti ar rai rhannau o’n gwefan. Gall ein gwefan hefyd gynnwys uwchddolenni i wefannau allanol trydydd parti, er hwylustod i chi. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys a gyhoeddir ar wefannau trydydd parti na’u cynhyrchion. Cyfeiriwch at wefan y darparwr am wybodaeth am gymorth.
Dogfennau y gellir eu lawrlwytho
Mae rhai o’r adnoddau “Lawrlwytho Adnodd” yn cynnwys dolenni at ddogfennau Word, PowerPoints a dogfennau eraill y gellir eu lawrlwytho nad ydynt wedi’u harchwilio ar gyfer hygyrchedd.
ADBORTH
Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd y wefan hon gan Chwaraeon Cymru. Rhowch wybod i ni os ydych yn dod ar draws rhwystrau hygyrchedd neu os oes arnoch angen cynnwys mewn fformat gwahanol.
E-bost: COMMUNICATIONS@SPORT.WALES
Cyfeiriad post: Cyfathrebu a Digidol, Chwaraeon Cymru, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Ein nod yw ymateb i adborth o fewn 5 diwrnod busnes
GWEITHDREFN ORFODI
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
SUT GWNAETHOM BROFI’R WEFAN HON
Rydym wedi defnyddio safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1 i brofi’r wefan hon.
Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Mai 2022, a chafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 5 Gorffennaf 2022.
PARATOI’R DATGANIAD HYGYRCHEDD HWN
This statement was prepared on 16 May 2022, and last updated on 5 July 2022.
Diweddarwyd diwethaf ar 18/12/2023