Defnyddio Sgiliau

Mae’r Cardiau Gweithgareddau Aml Sgiliau yn rhoi cyfleoedd i’r plant ddatblygu a defnyddio eu sgiliau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Mae’r gweithgareddau’n datblygu ystod o gysyniadau a sgiliau y gellir eu defnyddio a’u trosglwyddo i ystod o weithgareddau sy’n benodol i gampau, er enghraifft, cydsymud rhwng y dwylo a’r llygaid; ymwybyddiaeth ofodol; golwg perifferol; cydbwysedd; rheolaeth; ystwythder; cywirdeb; effeithiolrwydd; ymosod; amddiffyn; meddiant; sgorio goliau/pwyntiau; strategaethau; tactegau; stamina; cryfder; rhwyddineb; rhythm; meddwl; cyfathrebu; gweithio gydag eraill; gwella eu dysgu eu hunain; cofnodi; amseru; mesur; amcangyfrif ac ati. Gall pob gweithgaredd ddatblygu mwy nag un o’r agweddau hyn gyda’i gilydd. Gweler y Daflen Ffeithiau ‘Pa Sgiliau… Pa Weithgareddau?’ i weld pa sgiliau sy’n ymddangos ym mhob cerdyn gweithgareddau.

Gellir addasu pob gweithgaredd i ganolbwyntio ar sgìl, cysyniad, agwedd neu ganlyniad penodol. Ni fwriedir i’r Cardiau Gweithgareddau ddweud wrthych beth yn union y dylech ei wneud, ac ni fwriedir iddynt fod yn adnoddau y gallwch afael ynddynt a’u defnyddio’n syth. Bwriedir iddynt fod yn gardiau ‘cysyniadau’ a fydd, gobeithio, yn eich ysbrydoli chi a’ch cyfranogwyr yn ystod cyfres o sesiynau. Bydd addasu gweithgareddau yn ddychmygus i ddiwallu anghenion, diddordebau a galluoedd y plant yr ydych yn gofalu amdanynt yn fodd i hybu eu lefelau cymhelliant, eu mwynhad a’u cyfranogiad a gwella perfformiad. Gellir gwneud y gweithgareddau’n symlach, yn fwy cymhleth neu’n wahanol, yn dibynnu ar yr angen.

Y nod yn y pen draw yw i’r plant gymryd cyfrifoldeb cynyddol am drefnu a datblygu eu syniadau eu hunain, ond bydd angen cymorth arnynt i wneud hynny. Fel darparwr, gallech ddechrau drwy gymryd camau i osod ac esbonio gweithgaredd i’r plant, ac yna gweithio gyda nhw i addasu a datblygu’r gweithgaredd gan annog cymaint o greadigrwydd ag sy’n bosibl a chanolbwyntio ar ddatblygu sgìl. Gallai hynny ymwneud â mwy na lefelau eu sgiliau corfforol yn unig; gallai olygu eu bod yn datblygu sgiliau ehangach. Gweler y Daflen Ffeithiau ‘Datblygu’r Plentyn Cyfan’. Mae pob sgìl yn bwysig i ddatblygiad cyffredinol plentyn a’r modd y bydd yn meithrin ffordd iach a gweithgar o fyw yn y dyfodol. Gellir datblygu’r holl sgiliau hyn drwy’r gweithgareddau, a thros gyfnod bydd angen i chi sicrhau eich bod yn darparu cyfleoedd i hynny ddigwydd.

Wrth i’r plant gymryd cyfrifoldeb cynyddol, gallant osod gweithgareddau ar eu cyfer eu hunain, rheoli’r gweithgareddau hynny drwy fabwysiadu rolau megis rôl dyfarnwr, hyfforddwr, sgoriwr ac ati, a’u haddasu i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Bydd y gweithgareddau’n dod yn rhai a gaiff eu sbarduno gan blant a’u hybu gan oedolion. Bydd hynny’n arwain at lefelau uwch o gymhelliant a mwynhad yn ogystal â lefelau gwell o ran sgiliau. Efallai y bydd y plant yn dyfeisio eu gweithgareddau eu hunain i’w chwarae, y gallant eu cyflwyno/dysgu i grw ˆ p arall ac ati. Unwaith eto, mae hynny’n datblygu eu dealltwriaeth a’u hymwybyddiaeth o gysyniadau a sgiliau.

Diweddarwyd diwethaf ar 03/11/2023