Telerau Gwasanaeth
Er mwyn i chi gael mynediad i borth Citbag, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n defnyddwyr gytuno i’n telerau gwasanaeth.
Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn deall sut rydym yn defnyddio eich data a sut dylech ryngweithio â’r platfform.
Sut Rydym Yn Defnyddio Eich Data
Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif Citbag rydych chi’n cytuno i’r canlynol:
- I Chwaraeon Cymru gasglu a phrosesu’r data personol a ddarperir gennych wrth gofrestru er mwyn darparu mynediad i’r gwasanaeth a sicrhau’r gwasanaeth gorau i’w ddefnyddwyr. Rydym yn gwneud hyn o dan yr amod cyfreithiol o ddarparu gwasanaeth.
- I Chwaraeon Cymru gael mynediad at a phrosesu’r data personol a ddarperir gennych i reoli aelodaeth. Rydym yn gwneud hyn o dan yr amod cyfreithiol o ddarparu gwasanaeth, ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithlon.
- Eich bod dros 16 oed.
- Dim ond at ddibenion gweithredu’r porth, gwybodaeth i’ch helpu chi i ddefnyddio’r porth a gwybodaeth gysylltiedig y bydd gwybodaeth sy’n cael ei rhannu â Chwaraeon Cymru sy’n ymwneud â’ch cyfrif Citbag yn cael ei defnyddio.
- Gallwch gael gwybod mwy am sut mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol drwy fynd i’n Polisi Preifatrwydd
https://www.sport.wales/privacy/
Os hoffech chi drafod sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ymhellach, anfonwch e-bost i dpo@sport.wales.
Pa Wybodaeth Ydym Yn Ei Defnyddio?
Byddwn yn defnyddio:
- Eich enw
- Eich cyfeiriad e-bost
- Eich math o ddefnyddiwr
- Eich lleoliad
- Enw eich ysgol (os ydych yn athro neu’n ddysgwr) at ddibenion gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu
- Gwybodaeth dechnegol am eich dyfais, gan gynnwys cyfeiriad IP a gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan Gwcis.
Gyda Phwy Rydym Yn Rhannu Eich Data?
Er mwyn ein galluogi i weithredu’r Porth Adnoddau Addysg byddwn yn rhannu gwybodaeth ag Empyrean Digital, ein darparwr gwasanaeth gwe. Gallwch gael gwybod mwy am sut mae ein partneriaid yn defnyddio eich gwybodaeth isod:
Am Faint Fyddwch Chi’n Cadw Fy Nata?
Bydd data sy’n cael eu casglu ar gyfer eich Cyfrif Citbag yn cael eu cadw gan Chwaraeon Cymru am oes y rhaglen.
Beth yw fy hawliau?
Mae gennych yr hawl i gael eich gwybodaeth wedi’i diweddaru/chywiro, cael cofnod o’ch gwybodaeth, a’r hawl i gael dileu’r holl wybodaeth yn barhaol, oni bai fod gan Chwaraeon Cymru hawl gyfreithlon i gadw cofnod i fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol (fel cofnodion talu).
Gallwch gysylltu ar COMMUNICATIONS@SPORT.WALES ar unrhyw adeg i wneud cais i’ch cyfrif a’r data cysylltiedig gael eu dileu.
Rhyngweithio Gyda’r Cynnwys Adnoddau Addysg
Bydd cofrestru i gael cyfrif yn rhoi mynediad i chi i gynnwys sydd ar gael i aelodau yn unig am ddim.
Mae cyfyngu’r cynnwys i ddefnyddwyr gyda chyfrif yn ein helpu i barhau i weithredu’r rhaglen ac i sicrhau’r rhaglen orau ar gyfer ein defnyddwyr.
Ni ddylech rannu cynnwys gydag eraill drwy gysylltu â fideos neu drwy gopïo a gludo deunydd ysgrifenedig.
Drwy gofrestru ar gyfer cyfrif a chael mynediad at yr adnoddau, rydych chi’n gwneud y canlynol:
- Derbyn telerau defnydd y platfform
- Rhoi caniatâd ar gyfer defnyddio fy ngwybodaeth bersonol ar gyfer y dibenion a nodir uchod