Creaduriaid Craff

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:

  • Gwisgo bib creadur estron
  • Taflu/cicio pêl i mewn i’r ‘parth cadw’, rhedeg i’w chasglu/codi a symud i mewn i’r ‘parth sgorio’, yna rholio pêl neu’i thaflu dan ysgwydd er mwyn taro gôl/targed. Dylent ddychwelyd i’r ‘parth cadw’ ac ailadrodd y gweithgaredd. Dylent wneud y gweithgaredd uchod – gan osod dewis o dargedau i anelu atynt. Dylai’r plant benderfynu ar system sgorio ar gyfer pob targed, sawl tro a gaiff pob un/beth yw’r terfyn amser, ac ati
  • Taflu a dal y bêl yn y ‘parth cadw’, ac yna symud i mewn i’r ‘parth sgorio’ ac anelu at y goliau/targedau. Dylai’r plant benderfynu ar y rheolau ar gyfer y gweithgaredd dal a thaflu yn y ‘parth cadw’, e.e. pryd i symud i mewn i’r ‘parth sgorio’, teithio gyda’r bêl ai peidio, ac ati
  • Gosod targedau ar gyfer sawl gôl/pwynt y gallant eu sgorio mewn pum tro/un funud
  • Cofnodi eu hymdrechion â chymorth, gan ddefnyddio system sgorio syml
  • Cydweithredu â phlentyn arall i ennill eu sgôr uchaf

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’, a’u bod yn deall y rheolau ar gyfer casglu peli sy’n mynd i mewn i ‘erddi’ eraill

Cyfleoedd i

ddilyn rheolau syml gêm

anfon a chael gwrthrych dros bellter byr

cerdded neu redeg at bêl a’i chicio

datblygu eu gallu i berfformio sgiliau syml gyda phartner

Cwestiynau

  • Pa reolau rydych chi wedi eu llunio?
  • Beth mae’n rhaid i chi ei wneud i sicrhau bod pawb yn ddiogel pan fyddwch chi’n cicio’r bêl?
  • Beth sydd fwyaf anodd ynghylch y gweithgaredd hwn?
  • Sut gallwch chi a’ch partner helpu eich gilydd i wella eich sgiliau anfon?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn dilyn rheolau syml gêm?
  • Yn anfon ac yn cael gwrthrych dros bellter byr?
  • Yn cerdded neu’n rhedeg at bêl ac yn ei chicio?
  • Yn datblygu ei allu i berfformio sgiliau syml gyda phartner?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • ddatblygu a dilyn rheolau mwy cymhleth
    • anelu at dargedau anos
    • anfon a chael gwrthrych dros bellterau hirach am gyfnodau hirach, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau anfon a chael
    • ceisio curo sgôr ei bartner
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • ymarfer pob agwedd cyn chwarae’r gêm – cyfeiriwch at y Cardiau Sgiliau Technegol
    • trafod y rheolau y mae am eu dilyn
    • gweithio mewn ‘gardd’ ar ei ben ei hun i ddechrau