Adnoddau Athrawon
Pwrpas yr adnoddau hyn yw eich helpu chi i gyflwyno sesiynau difyr, pwrpasol a diogel gyda ffocws ar addysgeg effeithiol.
Bydd yr adnoddau yma yn
- Ategu eich gwaith a’ch cefnogi wrth lunio a dylunio eich cwricwlwm / darpariaeth o weithgareddau
- Darparu cronfa o syniadau a sgiliau a gweithgareddau priodol i chi a’ch dysgwyr
- Eich galluogi i’w dewis, eu defnyddio a’u cymhwyso o fewn eich sesiynau
Nid yw'r adnoddau yma yn
- Dysgu proffesiynol
- Cynlluniau Gwaith
- Cyfres o sesiynau
- Sesiynau rhagnodol
- Cynlluniau gwersi i’w codi a’u cyflwyno mewn trefn benodol.
Datblygu Sgiliau
Teilwra cyfleoedd i gyfnod datblygiad a chymhelliant plentyn.
Llyfrau Stori
Llyfrau i ysgogi dysgu, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad corfforol a symudiad creadigol.
Hyfforddiant Sgyrsiol Plentyn-ganolog
Diwallu anghenion, galluoedd a diddordebau plentyn, gan feithrin perchnogaeth drwy sgyrsiau hyfforddi
Hierarchaeth Sgiliau
Mae'n nodi pa sgiliau y dylid cyflwyno dysgwyr iddynt gyntaf a pha sgiliau sy'n sail i sgiliau eraill, gan sicrhau sylfaen gref cyn symud ymlaen.
Cardiau Thema
Dysgu cyfannol drwy symudiad creadigol, dawns a chreu gemau, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau mewn ffordd ddifyr.
Defnyddio Sgiliau
Cardiau Gweithgarwch i ddatblygu a defnyddio sgiliau ar draws gweithgareddau amrywiol, gan wella galluoedd corfforol a sgiliau creiddiol.
STEP
Mae defnyddio STEP yn helpu i greu gwersi cynhwysol drwy addasu Gofod, Tasg, Offer a Phobl i ddiwallu anghenion pob dysgwr.
RECIPE
Defnyddio’r broses Adolygu, Archwilio, Creu, Ymyrryd, Perfformio a Gwerthuso i feithrin hyder a sgiliau.
Pa Sgiliau... Pa Weithgareddau
Mae'r cerdyn yma’n nodi pa sgiliau y gellid eu datblygu drwy ba weithgareddau, perffaith ar gyfer cynllunio.
SMILES
Canllaw ar gyfer sesiynau diogel, cynhwysol a hwyliog, yn canolbwyntio ar Gyfranogiad, Ymwneud, Dysgu, Mwynhad a Llwyddiant.