Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:
- Symud oddi wrth eu smotyn a dychwelyd iddo. Dylai’r plant symud yn araf i ddechrau. Atgoffwch nhw o gysyniad y ‘swigod’. Cwningen a Ffermwr – o glywed y gair ‘Cwningen’ dylai’r plant gyrlio’u corff yn belen, ymestyn, agor eu ceg, bownsio, a hercian oddi wrth eu smotyn; o glywed y gair ‘Ffermwr’ dylent redeg yn ôl i’w smotyn
- Symud mewn amrywiaeth o ffyrdd/i wahanol gyfeiriadau/ar wahanol lefelau a chyflymder
- Defnyddio’r smotyn fel darn o gyfarpar y gallant symud drosto, o’i amgylch, ac ati
- Ailadrodd yr uchod – gan fynd â darn o offer/tegan ar daith
- Gosod gwrthrych mewn lle penodol, ac yna dychwelyd i’w gasglu/codi
- Cydbwyso/gwthio/llywio gwrthrych gan ddefnyddio rhan o’u corff neu fat, ac ati
- Taflu gwrthrych i fyny a’i gasglu/ei stopio/ei ddal/ei drapio gan ddefnyddio amrywiol rannau’r corff neu ddarnau o offer
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn gweithio yn eu ‘swigod’ mewn gardd
Cyfleoedd i
- ddatblygu sgiliau cydsymud a rheolaeth gynyddol
- archwilio tasgau syml gan ddefnyddio amrywiaeth o offer am gyfnodau hwy
- perfformio sgiliau corfforol sylfaenol
- gwella sgiliau corfforol sylfaenol
Cwestiynau
- Beth allwch chi ei wneud i’ch helpu i gofio ble mae eich smotyn?
- Sut gallwch chi wneud yn siŵr nad ydych yn taro yn erbyn neb wrth wthio neu lywio gwrthrych?
- Sawl gwaith gallwch chi neidio dros y smotyn heb lanio arno?
- Pam mae’n anos dal neu drapio’r gwrthrych pan fyddwch chi’n symud?
- Sawl gwaith bu’n rhaid i chi neidio i deithio o amgylch eich smotyn? Yn eich barn chi, sawl gwaith bydd yn rhaid i chi neidio i deithio o amgylch eich smotyn ddwywaith? Beth allwch chi ei wneud i’ch helpu chi i gadw cyfrif?
- Pa ffordd o symud oedd orau gennych, a sut gallech chi wella’r weithred honno?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn datblygu sgiliau cydsymud a rheolaeth gynyddol?
- Yn archwilio tasgau syml gan ddefnyddio amrywiaetho offer am gyfnodau hwy?
- Yn perfformio sgiliau corfforol sylfaenol?
- Yn gwella sgiliau corfforol sylfaenol?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- osod y gwrthrych ar smotyn arall sy’n fwyfwy pell yn raddol
- cysylltu sawl gweithred â’i gilydd i greu cyfres fer o weithrediadau a gysylltir â’i gilydd – ailadrodd y gyfres fel unigolyn neu gyda phartner wrth iddo symud oddi wrth ei smotyn a dychwelyd iddo
- disgrifio agweddau tebyg ac agweddau gwahanol yn ei weithrediadau ef a gweithrediadau plentyn arall – gan ddechrau defnyddio rhai geiriau allweddol
- cyflawni gweithrediadau i gyfeiliant curiad neu gerddoriaeth neu offerynnau taro
- dilyn llwybr penodol – siapiau 2D syml
- taflu gwrthrychau’n ofalus ar smotyn, neu daro gwrthrychau fel eu bod yn glanio ar smotyn
- cyfnewid un neu ddau/ambell/pob marciwr am ddarn o gyfarpar isel
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- ymarfer ei weithrediadau ar y smotyn nes ei fod yn teimlo’n hyderus
- gwneud ei smotyn yn fwy personol drwy adael tegan meddal wrth ei ymyl, ei addurno â’i enw, llun, ffotograff, ac ati
- trafod beth mae’n bwriadu ei wneud yn gyntaf, yna cwblhau’r dasg drwy gopïo/dilyn plentyn mwy medrus neu ymarferwr