Cyfarwyddiadau
- Mae dalen ‘post it’ (sy’n glynu) neu label cyfrifiadurol gyda gweithgaredd addysgu’r corff arno’n cael ei osod ar gefn pob disgybl
- Mae’r disgyblion yn symud o amgylch y neuadd ac, ar arwydd y penderfynwyd arno ymlaen llaw, maent yn ffurfio pâr
- Y disgyblion yn cymryd eu tro i holi cwestiynau gyda dim ond ‘ie’ neu ‘na’ yn atebion posibl iddynt
- Y disgyblion yn holi un neu ddau o gwestiynau ac yna’n symud ymlaen
- Y disgyblion yn ceisio dyfalu pa weithgaredd/ weithred sydd ar y label ar eu cefn hwy
- Unwaith maent yn meddwl eu bod wedi dyfalu, mae’r disgyblion yn perfformio’r weithred
Cyflyru’r Corff
- Datblygu cryfder, stamina/dygnedd a hyblygrwydd, gan ddibynnu ar y gweithredoedd a hyd y gweithgaredd
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
- Rhoi dewis o blith dwy weithred wrthgyferbyniol i’r disgyblion, er enghraifft, Cath Flin a Dysgl
- Cyfyngu ar nifer y gweithredoedd y gallai’r weithred fod
- Y ‘labelau’ i gynnwys lluniau ac enw’r gweithgaredd
- Cyfyngu ar y gweithgareddau i grŵp o weithredoedd sylfaenol, er enghraifft, Rholio neu Neidio
- Annog cwestiynau gan y disgyblion, er enghraifft, ‘Gofynnwch rywbeth ynghylch pa rannau o’r corff sydd mewn cyswllt â’r llawr?’
- Caniatáu i’r disgyblion i’w hatgoffa eu hunain o’r gweithredoedd
-
Herio
- Y ‘labelau’ i gynnwys geiriau yn unig
- Gallai’r gweithgareddau / gweithredoedd fod yn unrhyw rai maent wedi rhoi sylwiddynt
- Caniatáu i’r disgyblion holi eu cwestiynau eu hunain