Camelod yn Cysgu

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Y disgyblion yn symud o amgylch y neuadd gan gerdded fel camelod. Nifer bychan o’r disgyblion yn gweithio fel newidwyr siapiau
  • Mae’r disgyblion hyn yn cytuno i weithio mor galed ac mor gyflym ag y gallant
  • Wrth gael eu tagio gan newidiwr siapiau, mae’r disgyblion yn gorfod stopio a cherdded ymlaen gyda’u dwylo i mewn i siap ymgynnal blaen. Maent yn aros yn yr ystum/siâp yma nes eu bod yn cael eu tagio unwaith eto, ac yna maent yn symud eu dwylo yn ôl i mewn ac yn dechrau Cerdded fel Camel unwaith eto

Cyflyru’r Corff

  • Datblygu cryfder yr ysgwyddau, y breichiaua’r garddyrnau ynghyd â Stamina / dygnedd
  • Stamina

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ymarfer Cerdded fel Camel
    • Ymarfer ymgynnal blaen
    • Symud oddi wrth Gerdded fel Camel i Ystum/siâp Cath Flin
    • Ymarfer ystum/siâp Cath Flin
    • Symud oddi wrth Gerdded fel Camel i ddal siâp pont
    • Ymarfer siâp pont
    • Os nad yw’r disgyblion yn gallu dal y siâp ymgynnal blaen, caniatáu iddynt ddal naill ai ystum pont neu ystum cath flin a dychwelyd at ymgynnal blaen pan maent yn gallu
    • Symud ymlaen yn unig
  • Herio

    • Annog y newidwyr siapiau i osod targedau ar gyfer y nifer o ddisgyblion maent yn mynd i’w tagio o fewn cyfnod penodol o amser
    • Annog y disgyblion i symud i bob cyfeiriad
    • Caniatáu i’r disgyblion newid i ystum/siâp ymgynnal blaen pan maent eisiau heb y newidwyr siapiau
    • Unwaith maent yn yr ystum/siap ymgynnal blaen, cylchdroi drosodd i ymgynnal ôl neu ymgynnal ochr ac yna dychwelyd i ymgynnal blaen
    • Unwaith maent yn yr ystum/ siâp ymgynnal blaen, y disgyblion i berfformio ymarfer/ion gwthio i fyny (gwrthwasgiadau) gyda’r coesau wedi’u plygu