Cerbydau’n Cerdded

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Gweithiwch gyda phartner
  • Bydd un disgybl yn perfformio ystum Ymgynnal Blaen, ac yna bydd y disgybl arall yn perfformio ystum Ymgynnal Blaen o’i flaen, â thraed y disgybl yn y blaen ar ysgwyddau’r disgybl y tu ôl
  • Bydd dwylo’r disgybl yn y blaen ar y llawr
  • Unwaith y byddwch yn y safle Cerbydau’n Cerdded, cerddwch yn araf gan gymryd rhai camau ymlaen
  • Bydd y disgybl y tu ôl yn helpu’r disgybl yn y blaen i ddisgyn
  • Newidiwch drosodd ar ôl cyfnod penodol, er enghraifft 30 eiliad

Cwestiynau

  • What do you need to discuss as a pair to be successful at this activity?
  • Can you think of other ways of getting into the Support Train position?

Cyflyru’r Corff

  • Cryfder
  • Sadrwydd craidd
  • Tyndra’r corff
  • Sgiliau cydsymud

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ewch ati i ymarfer yr ystum Ymgynnal Blaen
    • Ewch ati i ymarfer yr ystum Cerbydau heb gerdded
    • Chwaraewch y gêm Camelod yn Cysgu
    • Ewch ati i ymarfer Cerdded fel Lindys
    • Ewch ati i ymarfer yr ystum Ymgynnal Blaen gan gerdded â symudiad unffurf, un o flaen y llall, ond heb gyffwrdd â’ch gilydd
  • Herio

    • Ceisiwch symud i wahanol gyfeiriadau
    • Ceisiwch adeiladu cerbyd hirach â mwy o ddisgyblion
    • Ceisiwch berfformio’r gweithgaredd ag un disgybl yn yr ystum Ymgynnal Ôl a’r disgybl arall yn yr ystum Ymgynnal Blaen
    • Bydd y disgybl yn y blaen yn ceisio codi un goes i fyny

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Cerbydau’n_Cerdded