Ciciau Camel

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Ewch ati i ymarfer Neidio fel Cwningen

• Dechreuwch gan Sefyll mewn ystum Camel â’ch coesau mor agos at eich dwylo ag sy’n bosibl heb eu plygu

• Cadwch eich dwylo’n fflat ar y llawr

• Plygwch eich coesau a’u cicio’n syth er mwyn codi’ch pen-ôl mor uchel ag sy’n bosibl

• Cadwch frest Cath Flin a’ch coesau ar led

• Gwnewch siâp Peic â’ch coesau ar led yn yr awyr a glaniwch ag un droed yna’r llall i orffen mewn ystum Camel

Cwestiynau

• Pam mae’n rhaid i chi blygu’ch pengliniau i’ch helpu i gicio i fyny?

• Pa droed sydd hawsaf i chi lanio arni yn gyntaf?

Cyflyru’r Corff

• Gwella cryfder yr ysgwyddau, y breichiau a’r arddyrnau*

• Sgiliau cydsymud

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ewch ati i ymarfer Neidio fel Cwningen

  • Herio

    • Ceisiwch godi’ch cluniau’n uwch bob tro

    • Ceisiwch lanio ar y droed chwith yn gyntaf

    • Ceisiwch lanio ar y droed dde yn gyntaf

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Ciciau Camel