Cwpan, Cath, Camel

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Y disgyblion yn dewis ystum/siâp cwpan neu gath flin. Nifer bychan o’r disgyblion yn newidwyr siapiau
  • Y newidwyr siapiau’n symud drwy Gerdded fel Camel. Y disgyblion hyn yn cytuno i weithio mor galed ac mor gyflym ag y gallant
  • Wrth gael eu tagio gan newidiwr siâp, mae’n rhaid i’r disgyblion newid o fod yn siâp cwpan neu gath flin i fod naill ai’n gath flin neu’n gwpan (yr ystum croes) drwy rolio i’r ochr

Cyflyru’r Corff

  • Datblygu stamina/dygnedd a chryfder

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ymarfer cath flin
    • Ymarfer ystum/siâp cwpan
    • Ymarfer rhôl cath
    • Chwarae cwpanau a soseri
  • Herio

    • Annog y newidwyr siapiau i osod targedau ar gyfer y nifer o ddisgyblion maent yn mynd i’w tagio o fewn cyfnod penodol
    • Os mewn ystum/siâp cwpan, troelli ar ffurf cwpan cyn rholio i’r ochr i fod yn gath flin
    • Os mewn ystum/siâp cath flin, troi i fod yn gath hapus ac yna’n ôl i fod yn gath flin cyn rholio i’r ochr i fod yn gwpan
    • Os mewn ystum/siâp cwpan, symud i fod yn soser ac yna’n ôl yn gwpan cyn rholio i’r ochr i fod yn gath flin

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Cwpan-cath-camel