Datblygu Cam Gwthio Rhif 1

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch mewn ystum Cath Flin

• Plygwch eich breichiau a gwthiwch yn galed fel bod eich dwylo’n gadael y llawr

• Sythwch eich breichiau

• Cadwch gefn Cath Flin

• Dychwelwch i safle Cath Flin gan gadw’ch arddyrnau a’ch penelinoedd yn llac

Cwestiynau

• A yw’ch dwylo lled yr ysgwyddau ar wahân?

• A yw’ch dwylo’n fflat ar y llawr?

• A oes gennych gefn Cath Flin trwy gydol y weithred?

• Beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn dal yr ystum am gyfnod hwy?

Cyflyru’r Corff

• Sgiliau cydsymud

• Sadrwydd craidd

• Osgo*

• Cryfder*

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ystum Cath Flin

    • Sefwch yn wynebu wal a rhowch gynnig ar y weithred hon gan ddefnyddio’r wal. Rhowch eich dwylo ar y wal a phlygwch eich breichiau fel uchod i wthio oddi ar y wal

  • Herio

    • Ceisiwch amrywio safle’ch breichiau ar ôl i chi wthio oddi ar y llawr, gan sicrhau eich bod yn glanio’n ddiogel

    • Ceisiwch glapio cyn i’ch dwylo ddychwelyd i’r llawr

    • Perfformiwch y weithred gan ddefnyddio cyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Datblygu Cam Gwthio Rhif 1