Cyfarwyddiadau
- Rhowch sodlau eich traed yn wastad yn erbyn wal, bariau wal neu ffrâm ddringo
- Perfformiwch ystum Ymgynnal Blaen fel bod eich corff yn syth
- Cadwch eich dwylo’n wastad a’ch bysedd ar led
- Edrychwch ar eich dwylo
- Cerddwch eich traed i fyny’r wal, y bariau wal neu’r ffrâm ddringo’n araf a gan ddangos rheolaeth
- Cadwch eich pen mewn llinell â’ch corff
- Cadwch eich corff yn syth trwy berfformio’r weithred Dal y Llygoden
- Cerddwch eich traed yn ôl i lawr y wal yn ofalus er mwyn dod yn ôl i’r safle y dechreuoch chi ynddo
Cwestiynau
- How many steps can you take?
- How few steps can you take?
Cyflyru’r Corff
- Cryfder
- Sadrwydd craidd
- Tyndra’r corff
- Sgiliau cydsymud
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
- Ewch ati i ymarfer yr ystum Ymgynnal Blaen
- Ewch ati i ymarfer codi’ch traed i ben mainc neu i ben bocs isel o’r ystum Ymgynnal Blaen
- Chwaraewch y gêm Tag Berfa
- Chwaraewch y gêm Camelod yn Cysgu
-
Herio
- Ceisiwch gerdded eich traed i fyny fel bod eich corff yn ffurfio ongl 45° â’r llawr
- Ceisiwch gerdded eich dwylo’n nes i’r wal, er mwyn gallu symud eich traed yn uwch