Rhôl Swmo

Wrth i ni wella

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Dechrau drwy eistedd ar y llawr mewn siâp twc
  • Cydio yn y coesau y tu ôl i’r pengliniau
  • Y traed led yr ysgwyddau ar wahân
  • Dal Cefn Cath Flin
  • Gostwng yn araf i’r ochr
  • Rholio ar draws y cefn
  • Dychwelyd at eistedd mewn siâp twc

Cwestiynau

Which Body Schooling actions help you to perform this roll?

Pwyntiau Addysgu Pellach

  • Gostwng yn araf i’r ochr drwy drosglwyddo pwysau’r corff
  • Dal i gydio yng nghefn y pengliniau drwy gydol y rôl
  • Dal Cefn Cath Flin drwy gydol y weithred
  • Dychwelyd at eistedd mewn siâp twc, gwthio’r benelin yn erbyn y llawr a thynnu ar y goes gyferbyn
  • Annog gweithred ar ffurf cylchu

Cyflyru’r Corff

  • Sefydlogrwydd a hyblygrwydd craidd

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ymarfer rhôl cath
    • Penderfynu pa ffordd ydych chi eisiau rholio, defnyddio’r fraich ar yr ochr honno i gyrraedd dan y pengliniau i ddechrau rholio, yn debyg i rolio cath
    • Ymarfer siapiau twc a chwpan
  • Herio

    • Uno nifer o weithredoedd rholio swmo gyda’i gilydd
    • Allwch chi gwblhau hanner tro yn union wrth rolio bob tro
    • Allwch chi sythu eich coesau a pherfformio’r rholio ar ffurf peic gyda’r coesau ar led – rhôl tedi

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Rhôl Swmo