Rholio yn Ôl ac i mewn i Ysgwyddsafiad Siâp Pwc

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch mewn siâp Twc
• Rholiwch yn ôl gan gadw cefn Cath Flin
• Rholiwch i mewn i Ysgwyddsafiad Siâp Pwc a cheisiwch gydbwyso ar eich ysgwyddau
• Rhowch eich dwylo ar eich cluniau i’ch cynnal
• Rholiwch yn ôl i’r siâp Twc

Cwestiynau

• A yw’ch pengliniau gyda’i gilydd trwy gydol yr amser?
• A oes gennych gefn Cath Flin trwy gydol y weithred?
• Pa mor hir gallwch chi ddal yr ystum cydbwyso hwn?

Cyflyru’r Corff

• Cydbwysedd

• Ystwythder

• Sadrwydd craidd*

• Osgo

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ysgwyddsafiad

    • Siâp Pwc

    • Siglo a Rholio

  • Herio

    • Perfformiwch y weithred heb ddefnyddio’ch dwylo i’ch cynnal (gweler Modiwl 2 ar gyfer yr Ysgwyddsafiad)
    • Unwaith yr ydych yn cydbwyso ar eich ysgwyddau ceisiwch amrywio safle’ch coesau
    • Gwnewch siâp cymesur/anghymesur â’ch coesau
    • Archwiliwch wahanol ffyrdd o ddod allan o’r Ysgwyddsafiad
    • Perfformiwch y weithred Rholio yn Ôl ac i mewn i Ysgwyddsafiad Siâp Pwc ar gyfarpar

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Rholio yn Ôl ac i mewn i Ysgwyddsafiad Siâp Pwc