Sgorpion sy’n Pigo

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch yn safle’r Sgorpion â’ch dwylo’n fflat ar y llawr, eich bysedd wedi’u lledu a’ch bysedd bawd tua 3cm ar wahân a’ch traed gyda’i gilydd

• Edrychwch ar eich dwylo

• Symudwch un droed ymlaen ychydig a phlygwch y goes honno

• Dylech gael ysgwyddau Cath Flin cryf

• Gwthiwch oddi ar eich troed flaen a chiciwch y goes arall mor uchel ag y gallwch

• Peidiwch â phlygu eich breichiau, peidiwch â symud eich dwylo

• Ceisiwch wneud y gweithgaredd eto gan ddefnyddio’r goes arall

Cwestiynau

• Pa siâp mae eich coesau’n ei wneud yn yr awyr?

• Pa mor hir gallwch chi gadw eich coesau yn yr awyr?

Cyflyru’r Corff

• Sgiliau cydsymud

• Rheolaeth*

• Osgo

• Cryfder*

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Rhagwth Blaen gan newid coesau bob yn ail

    • Ystum Ymgynnal Blaen gan newid coesau bob yn ail

  • Herio

    • A allwch chi gael eich coes ôl yn syth a’i chodi mor uchel ag sy’n bosibl?

    • A allwch chi esgyn a glanio mewn ystum Cydbwyso siâp T tuag ymlaen gan godi’ch coes ychydig oddi ar y llawr?

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Sgorpion sy’n Pigo