Cyfarwyddiadau
- Gweithiwch gyda phartner gan ddefnyddio bocs neu fainc
- Mae angen i’r ddau disgybl berfformio Ymgynnal Blaen ochr wrth ochr, gyda’u traed ar y bocs neu fainc a’u dwylo ar y llawr
- Dechreuwch yn agos at eich gilydd
- Mae un disgybl yn dagiwr sy’n ceisio tagio dwylo’r disgybl arall; unwaith mae wedi’i dagio, mae’n symud i’r ystum cychwynnol
- Mae’r disgybl sy’n cael ei dagio’n ceisio osgoi cael ei dagio drwy symud ei ddwylo o’r ffordd yn sydyn
- Newidiwch rôl wedyn ar ôl amser penodol, er enghraifft 30 eiliad
Cwestiynau
- Beth fydd angen i chi ei wylio i fod yn llwyddiannus yn y gweithgaredd yma?
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
- Ymarfer ystum Ymgynnal Blaen
- Chwarae Camelod yn Cysgu
- Ymarfer Cerdded fel Lindys
- Dim ond mewn ardal benodol mae’r disgybl sy’n cael eu tagio yn cael symud dwylo, er enghraifft o fewn cylch
-
Herio
- Annog y Tagwyr i osod targedau ar gyfer y nifer o weithiau maen nhw’n tagio’r disgybl arall mewn amser penodol
- Annog disgyblion i ddefnyddio’u dwylo a’u traed