Tag Cydbwyso

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Y disgyblion i symud o gwmpas y neuadd gan ddefnyddio unrhyw weithgaredd cerdded addysgu’r corff
  • Mae nifer fach o ddisgyblion yn gweithio fel newidwyr siâp, mae’r disgyblion hyn yn cytuno i weithio mor galed ac mor gyflym ag y gallant
  • Wrth dagio disgyblion mae’r newidiwr siâp yn galw rhif o 1 i 6 ac wedyn rhaid i’r disgybl sydd wedi’i dagio ddal cydbwysedd pwynt y rhif hwnnw; er enghraifft, os yw’r newidiwr siâp yn galw ‘4’, rhaid i’r disgybl sydd wedi’i dagio ddal cydbwysedd 4 pwynt
  • Mae’r disgyblion sydd wedi’u tagio yn dal y cydbwysedd hwnnw am bum eiliad ac wedyn bydd rhaid iddynt ddechrau ‘cerdded’ eto.

Cwestiynau

  • Sawl gweithgaredd cerdded i addysgu’r corff allwch chi ei enwi?
  • Pa enw allwch chi ei roi i unrhyw un o’ch cydbwysedd 4 pwynt?

Cyflyru’r Corff

  • Cryfder*
  • Sadrwydd craidd
  • Tyndra yn y corff*
  • Sgiliau cydsymud

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Ymarfer gweithredoedd cerdded addysg corff – llwynogod, sgorpionau, camelod, crancod, lindys
    • Perfformio gweithgaredd cerdded penodol wedi’i ddewis gan yr athro / disgyblion
    • Perfformio cydbwysedd pwynt wedi’i rifo penodol a thrafod sut gallech chi gydbwyso gan ddefnyddio’r rhif hwnnw
  • Herio

    • Annog newidwyr siâp i osod targedau ar gyfer y nifer o bobl maen nhw angen eu tagio mewn amser penodol
    • Annog y disgyblion i symud i bob cyfeiriad
    • Ceisio dal cydbwysedd lled-wyneb i waered gyda’ch pen o dan eich cluniau

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Tag Cydbwyso