Cyfarwyddiadau
- Mewn parau, y disgyblion i gymryd eu tro i dynnu llun gweithred addysgu’r corff, siâp neu ystum ar gefnau ei gilydd
- Y disgyblion naill ai’n dewis pa weithred maent am dynnu ei llun neu dderbyn dalen adnoddau data gan yr athro
- Annog y disgyblion i dynnu llun y weithred mor araf ac mor fawr ag y gallant
- Eu partner yn ceisio dyfalu beth yw’r weithred
- Unwaith maent wedi dyfalu’n gywir, y ddau ddisgybl i berfformio’r weithred gyda’i gilydd
- Sicrhau bod y ddau ddisgybl yn cael cyfle i wneud hyn
Cyflyru’r Corff
- Gweithgaredd ymlacio
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
- Rhoi dewis o blith dwy weithred wrthgyferbyniol i’r disgyblion, er enghraifft, Cath Flin a Dysgl
- Cyfyngu ar nifer y gweithredoedd y gallai’r weithred fod
- Cardiau ysgogi i gynnwys lluniau /brasluniau / diagramau arnynt, ac enw’r gweithgaredd
- Cyfyngu ar y gweithgareddau i grŵp o weithredoedd sylfaenol, er enghraifft, Rholio neu Neidio
-
Herio
- Y cardiau ysgogi i gynnwys geiriau yn unig
- Gallai’r gweithgareddau / gweithredoedd fod yn unrhyw rai maent wedi rhoi sylw iddynt