Ysgwyd y Graig

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

  • Y disgyblion yn gweithio mewn parau ac yn cymryd eu tro i fod yn graig
  • Mae un disgybl yn gorwedd ar y llawr mewnystum/siâp syth (y graig) ac yn gadael i’w bartner ei ysgwyd tra’n cynnal dim tensiwn o gwbl yn y corff
  • Dylent fod yn grynedig i gyd. Yna mae’n rhaid i’r disgybl ar y llawr ddefnyddio cymaint o densiwn corff ag y bo modd i wrth sefyll ymgais ei bartner i’w ysgwyd
  • Dylai fod fel craig, yn ddisymud. Newid drosodd fel bod y ddau ddisgybl yn cael bod yn graig

Cyflyru’r Corff

  • Sefydlogrwydd a chryfder craidd

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Annog y partner i ysgwyd yn ysgafn iawn
    • Ymarfer siâp syth
  • Herio

    • Ceisio dal siâp addysgu’r corff arall, er enghraifft, dysgl neu beic
    • Ceisio dal ystum/siâp rhewi o blith unrhywun o weithredoedd addysgu’r corff, er enghraifft, cranc neu sgorpion

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

ysgwyd-y-graig