Cyfarwyddiadau
• Gorweddwch ar eich ochr mewn llinell syth
• Estynnwch y fraich sydd ar y llawr allan uwchben eich pen
• Gwnewch ystum Dal y Llygoden
• Gorffwyswch eich pen ar y fraich sydd ar y llawr
• Rhowch y fraich arall i orffwys ar eich corff • Codwch y goes uchaf i’r awyr
Cwestiynau
• Sut ydych chi’n rheoli’r ystum cydbwyso hwn?
• A allwch chi godi braich a choes?
Addasu’r gweithgaredd
-
Galluogi
• Rhowch eich llaw rydd o flaen eich corff er mwyn ei gynnal a defnyddiwch y fraich sydd ar y llawr i gynnal eich pen
• Plygwch y goes sydd ar y llawr gan gadw’r goes uchaf oddi ar y llawr
-
Herio
• Codwch y ddwy goes oddi ar y llawr
• Ceisiwch amrywio safle’r coesau a’r breichiau
• Rholiwch i mewn i’r ystum cydbwyso ac allan ohono