Ystum cydbwyso Siâp T tuag ymlaen

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Gymnastics
Gymnasteg

Cyfarwyddiadau

• Dechreuwch yn yr ystum Rhagwth Blaen

• Gan gadw’ch breichiau uwchben eich pen, codwch y goes ôl oddi ar y llawr

• Wrth i chi godi’ch coes, pwyswch ymlaen o’ch cluniau, gan gadw’ch breichiau uwchben eich pen a’u symud ychydig ar led wrth i chi bwyso ymlaen

• Yn araf, sythwch y goes sy’n cynnal pwysau’r corff wrth i chi gadw’ch cydbwysedd

• Gorffennwch mewn siâp T â’ch corff a’ch cefn mewn llinell syth• Dylech symud eich breichiau ymhellach ar led hyd nes bod eich dwylo bron â bod o’ch golwg

Addasu’r gweithgaredd

  • Galluogi

    • Gwnewch ystum Crëyr

    • Perfformiwch yr ystum Rhagwth Blaen

    • Perfformiwch yr ystum Rhagwth Blaen a chodwch eich coes ôl ychydig oddi ar y llawr

  • Herio

    • Codwch i fyny ar belenni neu flaenau’r traed

    • Perfformiwch fwa wrth ddal Ystum cydbwyso Siâp T tuag ymlaen

    • A allwch chi droelli ar y droed sy’n cynnal pwysau’r corff?

     

     

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Ystum cydbwyso Siâp T tuag ymlaen