Criced mewn Parau

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant fel bod deg plentyn ym mhob gardd (maes chwarae) a’u rhannu’n bum pâr (pum set o ddau chwaraewr)
  • Bydd pob pâr yn cael cyfle i wneud y canlynol gan newid o un i’r llall: batio, maesu ar ochr y goes, maesu ar yr ochr draw, bowlio a chadw wiced, dyfarnu/sgorio a hyfforddi. Bydd angen i’r plant gytuno ar ffordd deg o newid rôl pob pâr
  • Bydd pob pâr yn dechrau gydag ugain rhediad. Byddant yn colli tri rhediad bob tro y byddant allan
  • Bydd y parau’n sgorio rhediadau trwy fatio a rhedeg rhwng y wicedi
  • Bydd y plant yn chwarae yn eu safleoedd am ddwy belawd – caiff y bêl ei bowlio chwe gwaith ym mhob pelawd, ac yna caiff y parau eu newid
  • Bydd y plant yn sgorio pwyntiau fesul pâr

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
  • bod y plant yn cadw’r bêl yn eu ‘gardd’ eu hunain a bod y batwyr yn anelu i ffwrdd wrth ‘erddi’ eraill

Cyfleoedd i

  • ddatblygu cywirdeb, rheolaeth, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
  • datblygu ymwybyddiaeth ofodol
  • cydweithio ag eraill a pharchu confensiynau chwarae teg, cydraddoldeb ac ymddygiad priodol
  • ymgymryd â rolau eraill a’u deall – rôl batiwr, maeswr, bowliwr, wicedwr, sgoriwr/dyfarnwr a hyfforddwr

Cwestiynau

  • Pa mor dda roeddech chi wedi gweithio fel pâr?
  • Sut gwnaethoch chi helpu eich partner?
  • Beth fyddwch chi’n ei wneud i wella eich gwaith tîm y tro nesaf?
  • Pa weithgaredd roeddech chi fwyaf/leiaf llwyddiannus yn ei wneud?
  • Pa sgiliau y byddwch chi’n eu hymarfer er mwyn bod yn fwy llwyddiannus yn y gweithgaredd hwn y tro nesaf?
  • Sut dangosoch chi chwarae teg ac agwedd iach?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Change the:

  • Lle

    • y ffiniau
    • y pellter rhwng y wicedi
  • Tasg

    • y dull o fowlio’r bêl
    • y dull o daro’r bêl, e.e. gan ddefnyddio ti batio
    • y rheolau mewn perthynas â tharo’r bêl, e.e. os byddwch chi’n taro’r bêl rhaid i chi redeg
    • y rheolau mewn perthynas â sgorio – cyflwyno modd o sgorio 4 neu 6 rhediad, neu gyflwyno parthau sgorio penodol ac ati
  • Offer

    • yr offer a ddefnyddir – defnyddio gwahanol beli, batiau, racedi ac ati
  • Pobl

    • nifer y plant sy’n chwarae, e.e. ychwanegu pâr arall o faeswyr