Dwli Dwl

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant yn bedwar tîm o ddau mewn ‘gardd’ fawr, lle bydd pob tîm naill ai’n cydweithio i gael y sgôr uchaf neu’n cystadlu yn erbyn ei gilydd
  • Nod y plant fydd casglu/codi cynifer o wrthrychau ag sy’n bosibl a’u gosod yn eu cuddfan/ardal gartref mewn amser penodol
  • Bydd y plant yn dechrau casglu gwrthrychau o’r ardal ganol, a phan ddaw’r gorchymyn byddant yn casglu gwrthrychau o ardaloedd cartref timau eraill
  • Ni ddylid casglu mwy nag un gwrthrych ar y tro
  • Ni ddylai’r plant warchod gwrthrychau yn eu hardal gartref

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • eich bod yn dechrau gyda nifer fach o blant mewn gwagle
  • nad yw’r plant yn taro yn erbyn ei gilydd
  • bod y plant yn cymryd gofal wrth gasglu gwrthrychau, eu gosod a theithio gyda nhw
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn fel y bo’n briodol

Cyfleoedd i

  • ddefnyddio sgiliau cystadleuol gyda gwell rheolaeth a sgiliau cydsymud
  • cydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gydag eraill
  • cynnal gweithgarwch am gyfnodau priodol
  • gwylio perfformiadau ei gilydd, a dweud beth sy’n dda amdanynt a beth allai fod yn well, gan ddechrau defnyddio geiriau allweddol sy’n gysylltiedig â’u gweithgaredd
  • defnyddio’r ddealltwriaeth hon i gynllunio sut i wella eu sgiliau eu hunain

Cwestiynau

  • Beth wnaethoch chi i sicrhau nad oeddech chi’n taro yn erbyn neb arall?
  • Sut gallech chi gasglu mwy o wrthrychau’r tro nesaf?
  • Pa sgiliau y mae angen i chi eu hymarfer?
  • Beth roeddech chi’n ei wneud pan oedd eich partner yn gweithio?
    – Sut gallwch chi roi mwy o help i’ch partner?
  • A oeddech chi’n codi gwrthrychau, yn eu cario a’u rhoi i lawr â’ch llaw dde neu’ch llaw chwith?
    – Pam mae’n bwysig defnyddio’r ddwy law?
  • Sut mae hynny’n effeithio ar eich traed?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Change the:

  • Lle

    • faint o le sydd ar gael – bydd mwy o le yn golygu mwy o bellter (mwy o amser, mwy o stamina); bydd llai o le yn golygu llai o bellter (symud y traed yn gynt)
  • Tasg

    • y dull o deithio i gasglu’r gwrthrychau, er enghraifft camu i’r ochr, sgipio, traed chwim, cerdded fel camel, cwningod ac ati
    • gwerth y gwrthrychau, fel bod rhai ohonynt yn werth mwy o bwyntiau nag eraill, gallai fod gan rai gwrthrychau werth negyddol neu werth dirgel
    • y dull o deithio gyda’r gwrthrychau
    • y dull o osod gwrthrychau yn y cuddfan cartref
    • y llwybr adref
    • y rheolau, er enghraifft ni ellir codi gwrthrych o’r un ardal ddwywaith ar ôl ei gilydd, neu dylid ceisio cael y nifer leiaf o wrthrychau yn eich cuddfan cartref pan ddaw’r amser i ben, neu gyflwyno amddiffynnwr
  • Offer

    • y gwrthrychau, y symbyliadau gweledol, dull penodol o deithio gydag offer gwahanol, e.e. bydd pêl feddal yn golygu bod angen neidio â’r ddwy droed gyda’i gilydd; bydd pêl fasged yn golygu bod angen driblo â’r dwylo; neu ddriblo â’r traed er mwyn herio’r ffordd o feddwl ac ati.
  • Pobl

    • nifer y plant sydd ym mhob tîm neu nifer y timau – mwy o blant yn yr un ardal (mwy o wrthrychau i’w hosgoi)