O Un Pen i’r Llall

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Trefnwch y plant yn ddau dîm o bump mewn un ‘gardd’ sydd wedi’i rhannu’n ddau barth• Bydd un tîm yn ymosod a’r tîm arall yn amddiffyn
  • Bydd pedwar plentyn yn chwarae yn erbyn dau ym mhob parth. Bydd dau amddiffynnwr yn aros ym mhob parth a cheir un swyddog o bob tîm. Bydd angen penderfynu ar ffordd deg o newid pwy sy’n chwarae rôl y swyddog
  • Bydd y tîm sy’n ymosod yn dechrau ar ei linell derfyn, ac yn anfon ac yn derbyn y bêl rhwng aelodau’r tîm cyn symud i’r parth nesaf, gan sgorio ar/wrth y llinell derfyn ar y pen arall. Dim ond o’r tu mewn i’r hanner ar gyfer ymosod y gellir sgorio goliau
  • Bydd yr amddiffynwyr yn ceisio rhyng-gipio’r bêl, ac os bydd yr amddiffynwyr yn ennill y meddiant byddant yn troi’n ymosodwyr ac yn anfon ac yn derbyn y bêl rhyngddynt i geisio sgorio. Bydd aelodau’r tîm a fu’n ymosod yn troi’n amddiffynwyr, a rhaid iddynt drefnu eu hunain yn ddiogel ac yn gyflym fel bod dau amddiffynnwr ym mhob parth
  • Ar ôl i un tîm sgorio gôl, bydd y tîm arall yn ailddechrau’r gêm o’r llinell derfyn
  • Dylid newid yr amddiffynwyr a’r ymosodwyr drosodd
  • Bydd angen i’r plant greu eu rheolau eu hunain ynghylch yr hyn y gall chwaraewyr ei wneud pan fydd y bêl yn eu meddiant, ac am ba hyd y gallant gael y meddiant. Beth fydd yn digwydd os aiff y bêl allan o’r ‘ardd’/dros yr ystlys? Bydd angen i’r plant benderfynu ar y rheolau ar gyfer symud i’r parth nesaf, er enghraifft rhaid i bawb gyffwrdd â’r bêl cyn y gall y tîm symud i’r parth nesaf, neu dylid pasio’r bêl bump o weithiau cyn symud i’r parth nesaf, a phenderfynu a ellir symud y chwarae yn ôl i’r parth blaenorol ac at