Rownd Ragorol

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Crëwch gwrs golff chwe thwll gan ddefnyddio cylchoedd (tyllau), conau (tïau) ac ati
  • Bydd angen i’r plant geisio cael pêl i mewn i’r cylch gan ddefnyddio cyn lleied o ergydion ag sy’n bosibl
  • Bydd angen i’r plant greu eu rheolau eu hunain ar gyfer y gêm ond, dylai pwyntiau gael eu sgorio ar sail sgìl ac nid lwc
  • Gall y plant sgorio pwyntiau yn unigol, fel pâr neu fel grŵp

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
  • mai dim ond un grŵp ar y tro sydd wrthi’n chwarae pob twll
  • bod pawb sy’n cymryd rhan yn aros o leiaf 3m i ffwrdd wrth y plentyn sy’n taro’r bêl
  • bod digon o le rhwng pob twll
  • bod yr ardal chwarae wedi’i diffinio’n glir
  • bod y plant yn anelu i ffwrdd wrth dyllau eraill (gogledd, de, dwyrain, gorllewin ac ati)
  • bod mynediad ar gael i blant sy’n defnyddio cadair olwyn

Cyfleoedd i

  • gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu gwaith dysgu eu hunain, a gofyn cwestiynau perthnasol er mwyn ymestyn a gwella eu perfformiad
  • dangos mwy o gywirdeb
  • cyfleu eu syniadau’n glir wrth gyfrannu at y broses creu rheolau a threfnu’r cwrs golff
  • dechrau datblygu amrywiaeth cynyddol o syniadau dychmygus

Cwestiynau

  • Sut gwnaethoch chi sicrhau eich bod chi a gweddill y plant yn eich pâr/ grŵp yn ddiogel yn ystod y gweithgaredd hwn?
    – Sut gallech chi ei wneud yn fwy diogel ond yn hwyl i’w chwarae o hyd?
  • Pa reolau roeddech chi wedi helpu i’w creu?
  • Pa reolau weithiodd yn dda yn eich barn chi?
  • A oeddech chi’n chwarae’n deg?
  • Sut gallech chi sicrhau bod pawb yn cadw at y rheolau wrth chwarae?
  • Sut roeddech chi wedi sicrhau eich bod yn cadw’r sgôr yn gywir?
  • Pa dwll oedd yr un mwyaf/lleiaf heriol?
  • Sut gallech chi wella eich perfformiad y tro nesaf?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Change the:

  • Lle

    • maint yr ardal darged – ei gwneud yn fwy, ei gwneud yn llai, ei symud yn nes, ei symud yn bellach i ffwrdd
  • Tasg

    • y modd y mae gwrthrych yn cyrraedd y twll, e.e. ar gyfer yr ergyd gyntaf oddi ar y ti gadewch i’r plant ddefnyddio’r ffyn tsipio er mwyn iddynt gael profiad o tsipio’r bêl i fyny i’r awyr
    • y rheolau, e.e. ergydio bob yn ail, pwy sydd agosaf at y twll ar ôl un ergyd, pwy sydd â’r sgôr uchaf ar ôl chwe thwll
  • Offer

    • trefn y tyllau, gosod gwrthrychau o flaen y grîn bytio, gadael i’r plant osod conau wedi’u troi wyneb i waered fel rhwystrau ac ati, megis conau melyn (pyllau tywod) a chonau glas (pyllau dŵr)
    • yr offer a ddefnyddir – defnyddio offer llachar ar gyfer plant â nam ar y golwg
  • Pobl

    • nifer y plant ym mhob tîm – chwarae ar fformat Her Cwpan Ryder
    • y cymorth a roddir i blant â nam ar y golwg trwy ddarparu bydi i helpu’r plentyn i sefyll yn y man iawn neu daro postyn y faner er mwyn iddo glywed y sŵn