Beth am chwarae?
- Rhowch wyth plentyn ym mhob ‘gardd’
- Bydd dau ohonynt yn dagwyr a bydd y chwech arall yn perfformio siâp ac yn ei ddal
- Bydd y tagwyr yn symud o gwmpas gwagle gan weithio mor galed ag y gallant i dagio’r plant sy’n perfformio siâp
- Bydd y plant sy’n perfformio siâp yn dal un siâp, a phan gânt eu tagio byddant yn symud i ddal siâp arall nes y cânt eu tagio eto
- Newidiwch y tagiwr yn rheolaidd
- Gwnewch y gweithgaredd am gyfnod penodol
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
- bod modd i’r plant ymlacio pan na allant ddal y siâp ddim mwy, ac ailymuno yn y gweithgaredd pan fyddant yn barod
Cyfleoedd i
- ddefnyddio sgiliau creadigol gyda gwell rheolaeth a sgiliau cydsymud
- dangos gwell tyndra a pherfformio siapiau cliriach
- datblygu stamina a chryfder
- cynnal gweithgarwch am gyfnodau priodol
- datblygu sgiliau creu dilyniannau
Cwestiynau
- Sut roeddech chi’n teimlo pan oeddech chi’n un o’r tagwyr?
- Sut roeddech chi’n teimlo pan oeddech chi’n dal siâp?
- Pam mae’n bwysig gwneud y gweithgareddau hyn yn rheolaidd?
- Sut gallech chi wella’r modd rydych chi’n symud o un siâp i’r llall?
Newidiadau i’r gweithgaredd
Change the:
-
Lle
- maint y lle – chwarae mewn lle mwy o faint er mwyn dal siâp am amser hwy, chwarae mewn lle llai o faint er mwyn newid siâp yn gyflym
-
Tasg
- dull y tagwyr o symud – rhedeg, cerdded, milwr yn cropian, cranc, sgorpion, llwynogod, cwningod, cerdded fel camel, neidio fel broga, naid bogo. Gweler Modiwl 1, 2 a 3 Gymnasteg AGChY
- y siâp a gaiff ei ddal, e.e. cath hapus, cath flin, cwpan, soser, plymio o’r awyr, peic, stradl, dysgl, bwa, ymgynnal blaen, ymgynnal ôl, ymgynnal ochr, ysgwyddsafiad ac ati. Gweler Modiwl 1, 2 a 3 Gymnasteg AGChY
- y dull o symud o un siâp i’r llall, e.e. troelli, rholio, troi’r siâp drosodd yn gyntaf cyn symud ymlaen i’r siâp nesaf, perfformio dilyniant byr o weithrediadau cyn dal siâp arall
- yr amser a gaiff ei dreulio ar y gweithgaredd
-
Offer
- yr offer a ddefnyddir wrth berfformio siapiau neu’r offer y caiff siapiau eu perfformio arnynt
-
Pobl
- nifer y tagwyr, nifer y plant sy’n dal siapiau ac ati