Llais

Dylai’r dewis o gynnwys ystyried mewnbwn pobl ifanc a dylai ddarparu cyfleoedd cynyddol i bobl ifanc ddatblygu eu barn a chyfrannu syniadau. Mae cyfranogiad yn egwyddor allweddol o CCUHP a bydd galluogi cyfranogiad yn creu cwricwlwm difyr sy’n ymateb i ddiddordebau, anghenion a blaenoriaethau dysgwyr. Mae hefyd yn broses sy’n cefnogi deialog rhwng dysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae angen iddo fod yn ddiogel, yn alluogol ac yn gynhwysol, ac mae ynddo’i hun yn brofiad dysgu gwerthfawr, sy’n cefnogi ymholi a meddwl yn feirniadol.

Diweddarwyd diwethaf ar 29/06/2022