Planed Chwarae

Drwy Gydol ein Siwrnai

Llyfr Stori
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Disgrifiad

Mae’r llyfr hwn yn rhan o’r adnodd ‘Chwarae i Ddysgu’ sydd wedi’i ysgrifennu i hybu gwaith cyflwyno Datblygiad Corfforol a Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen.

Nod y gyfres o lyfrau yw cymell plant i wneud gweithgareddau corfforol a dod yn fwy medrus. Tynnir sylw at ystod o sgiliau corfforol trwy’r straeon drwyddi draw er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad.

Mae Llyfr 3 – Planed Chwarae yn datblygu’r sgiliau canlynol:

Symud

Rhedeg, Neidio a Glanio, Carlamu

Rheoli’r Corff

Gwthio Gwrthrych, Tynnu Gwrthrych, Rhagwthio, Ochrgamu

Trafod a Thrin

Cicio Pêl, Taflu â Dwy Law, Bownsio Pêl, Taflu dros Ysgwydd, Driblo â’r Traed, Driblo â’r Dwylo, Trapio â’r Traed, Taro Gwrthrych â’r Dwylo neu Fat

Unwaith y byddwch chi wedi darllen y llyfr hwn, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n helpu plant i archwilio symudiadau posibl mewn straeon eraill.

Llyfr

Fersiwn Testun Yn Unig


“Rwy’n mynd i chwarae dros Gymru,” cyhoeddodd Gethin.

“Rwyt ti’n llawn mor ddwl am rygbi â Dad,” chwarddodd Tom wrth iddyn nhw redeg allan o’r tŷ ac i waelod yr ardd i chwilio am bêl.

Wrth iddyn nhw redeg, roedden nhw’n esgus pasio pêl rygbi at ei gilydd, gan ragwthio ac ochrgamu wrth symud o un pen yr ardd i’r llall.

Stopiodd Gethin, ac esgus cicio’n araf. Gallai weld y bêl yn ei ddychymyg wrth iddi hedfan yn syth rhwng y pyst.

“Diolch byth nad oeddet ti’n cicio pêl go iawn,” chwarddodd Tom. “Byddai honna wedi mynd trwy ffenest Mrs Befan.”

Gan nad oedden nhw’n gallu dod o hyd i’r bêl rygbi, penderfynodd y bechgyn orffen y cuddfan roedden nhw wedi dechrau ei adeiladu’r wythnos flaenorol. Gwibiodd y ddau yn ôl i waelod yr ardd, gan neidio dros y domen gompost er mwyn casglu’r pren a’r cardbord yr oedd Dad wedi’u cadw ar eu cyfer.

“Beth am adeiladu llong ofod,” awgrymodd Tom.“Gallen ni hedfan i Blaned Rygbi,” meddai Gethin, ond doedd Tom ddim yn rhy hoff o’r syniad.

“Na! Planed Pêl-droed!” dadleuodd Tom.

Yn y diwedd, penderfynodd y ddau y byddai’r llong ofod yn cael ei henwi’n Apolo 3 -2 -7, a’r lle cyntaf y byddai’n hedfan iddo fyddai Planed Chwarae!

Gweithion nhw’n galed ar y llong ofod, a gyda help ychydig o ffoil o’r gegin, roedden nhw bron â bod yn barod i gychwyn.

“Oes olwyn lywio gan longau gofod?” gofynnodd Tom.

“Byddai’n syniad da,” meddai Gethin. “Oes un ’da ti?”

Wrth i Tom edrych allan o’r cuddfan gwelodd Megan yn carlamu i fyny llwybr yr ardd ar ei cheffyl pren.

“Megan,” galwodd Tom, “wnei di fynd i nôl yr olwyn beic rhoddodd Tad-cu i ni?”

“Dim ond os galla’ i chwarae yn eich cuddfan chi,” meddai Megan.

“Iawn,” cytunodd y bechgyn. “Dere â’r olwyn a bocs arall.”

Wrth iddyn nhw aros am Megan, gwnaeth y bechgyn yn siw^ r fod paneli rheoli’r llong ofod yn hollol barod.

“Mae’n edrych yn anhygoel!” ochneidiodd Gethin wrth iddo bwyso’n ôl yng nghadair y capten. “R’yn ni’n barod i lansio, Capten Tom.”

Chwarddodd y ddau a dechrau cyfrif i lawr.

1O … 9… 8… 7… 6… 5…

Dechreuodd y llong ysgwyd a chrynu. Roedd y llawr yn troelli fel corwynt a WHWWSH! cawson nhw eu sugno i’r gofod.

CRASH! Stopiodd y troelli’n sydyn gan wneud i’r bechgyn gwympo allan o’u cadeiriau. Wrth iddyn nhw godi gwelson nhw gae’n ymestyn o’u blaen. Rywsut, roedd y ddau’n gwisgo cit pêl-droed ac roedden nhw’n gallu clywed torf yn bloeddio.

Roedd pêl yn dod tuag atyn nhw. Heb feddwl, trapiodd Gethin y bêl â’i droed a’i phasio at Tom. Driblodd Tom y bêl i lawr y cae yn chwim. Rheolodd y bêl cyn troi, anelu a’i chicio at y gôl.

“GÔL!”

Gallai’r bechgyn glywed y dorf yn gweiddi, ond wrth iddyn nhw edrych o’u cwmpas gwelson nhw eu bod yn ôl yn y llong ofod ac yn symud unwaith eto.

“Waw, roedd hwnna’n wych!” gwaeddodd Tom dros sŵn yr injan yn rhuo.

Unwaith eto, stopiodd y llong ofod mor gyflym ag yr oedd wedi dechrau. Y tro hwn, wrth i’r bechgyn gamu allan ohoni, gwelson nhw greaduriaid o bob lliw a llun yn chwarae gêm ryfedd iawn.

“Beth maen nhw’n chwarae?” gofynnodd Gethin.

“Does dim syniad ’da fi,” atebodd Tom, “ond dwi’n credu eu bod nhw’n ceisio cael y peli i mewn i’r basgedi ’na. Dyna hwyl! Dere mlân!”

Ymunodd y ddau yn y gêm wrth i’r creaduriaid basio’r bêl. Weithiau, roedden nhw’n bownsio’r bêl, dro arall roedden nhw’n ei chicio. Weithiau, roedden nhw’n taflu’r bêl, dro arall roedden nhw’n ei driblo. Ac weithiau roedden nhw’n sgorio yn y basgedi.

Yn sydyn, hedfanodd pêl i gyfeiriad Gethin, ac roedd dau o’r creaduriaid mwyaf a welodd erioed yn ei dilyn. Cydiodd Gethin yn y bêl yn ddewr mewn dwy law ac anelu’n ofalus. Hedfanodd y bêl i’r awyr a disgyn i’r fasged agosaf.

“Ergyd wych!” gwaeddodd rhywun.

Roedd Gethin wrth ei fodd â’i ergyd, ond chafodd fawr o amser i ddathlu gan fod goleuadau’r panel rheoli wedi dechrau fflachio, ac wrth i’r injans suo a swnian roedden nhw ar eu ffordd eto, yn troelli a chwyrlïo ac yn chwyrlïo a throelli yn ôl trwy’r gofod.

I ble’r oedden nhw’n mynd? Ble bydden nhw’n glanio?

“Hei Gethin,” gwaeddodd Tom. “Ble’r wyt ti’n meddwl y byddwn ni’n glanio nesaf?”

“Dim syniad,” atebodd Gethin wrth iddo ddal yn dynn yn ei gadair. “Dylen ni fod wedi aros i Megan a’r olwyn lywio cyn i’r llong yma benderfynu hedfan i ffwrdd!”

“Help!”….. “Tom!”

Edrychodd y bechgyn ar ei gilydd.

“Megan!” gwaeddodd y ddau gyda’i gilydd.

Yn sydyn, roedden nhw’n troelli eto, rownd a rownd a rownd. CHWAP! Yn ôl ar y ddaear! Rhedodd y bechgyn allan o’r cuddfan.

Roedd Megan yn tynnu a gwthio ac yn gwthio a thynnu wrth iddi stryffaglu i wthio’r pram i fyny’r llwybr â’r olwyn fawr drom ar ei ben.

“Mae’n rhaid i chi fy helpu i â hwn,” meddai Megan yn grac. “Ble r’ych chi wedi bod? Dwi wedi bod yn galw amdanoch ers amser.”

Edrychodd y bechgyn ar ei gilydd. Roedd eu hwynebau’n goch biws, ac roedden nhw’n chwysu ac yn pwffian â’u gwynt yn eu dwrn.

“O, dim ond gwneud yn siŵr bod y cuddfan yn hollol barod,” dywedodd Tom gan wincio ar Gethin. Fyddai Megan byth yn eu credu pe bydden nhw’n dweud wrthi.

Gweithiodd y tri phlentyn gyda’i gilydd i gael y pram i fyny’r grisiau. Tynnodd Tom, gwthiodd Gethin, a gafaelodd Megan yn yr olwyn er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd yn cwympo.

Gyda’i gilydd, llwyddodd y tri i roi’r olwyn lywio yn ei lle yn y llong ofod o’r diwedd.

“Mae Tad-cu yma!” galwodd Mam.

“Pwy sydd am chwarae ‘Tipio a Rhedeg’ yn y parc?” gofynnodd Tad-cu.

Edrychodd Gethin a Tom ar ei gilydd. A ddylen nhw fynd gyda Tad-cu neu fynd yn ôl i mewn i’w llong ofod?

“Roedd hi’n antur anhygoel,” meddai Tom, “ond dwi ddim yn barod am antur arall eto. Beth amdanat ti?”

“Na finne chwaith,” meddai Gethin gan roi ei fys ar ei wefusau. Roedd e am gadw eu hantur yn gyfrinach.

“Iawn Tad-cu. Fi sy’n batio gyntaf!” meddai Tom.

“Na, fi!” gwaeddodd Megan wrth iddi redeg yn ei blaen.

Wrth i’r plant adael yr ardd, taflodd y bechgyn un cipolwg arall ar eu llong ofod ryfeddol, cyn brysio i ffwrdd i chwarae.