RECIPE
ATGOFFA
Yng ngham atgoffa’r wers bydd y disgyblion yn adlewyrchu ar yr hyn a ddysgwyd yn y wers ddiwethaf ac yn cynllunio beth maent yn mynd i fod yn ei wneud yn y wers gyfredol er mwyn parhau i wella eu perfformiad.
Enghreifftiau o rai o’r cwestiynau y gallai’r disgyblion gael eu hannog i’w gofyn:
- Beth wnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi ei wneud yn y wers ddiwethaf?
- Beth wnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi ei wneud yn dda?
- Beth wnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi ei nodi i’w wella?
- Beth sydd angen i mi/ni/chi ei newid/ymarfer/ddysgu?
- Oes unrhyw beth arall y gallwn i/ni/ gallech chi ei wneud i wella?
- Pwy allwn i/ni/allech chi ofyn iddo fy/ein/eich helpu?
- Ble gallaf i/gallwn ni/gallech chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth i’n helpu?
Cwestiynau heriol
- Pam wnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi nodi hyn ac ar ba sail y gwnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi wneud y penderfyniad hwn?
- Ydw i/Ydyn ni/Ydych chi’n dal yn hapus mai dyma’r agwedd rydw i/rydyn ni/rydych chi eisiau ei gwella?
- Sut ydw i/ydyn ni/ydych chi am fynd ati i wella’r agwedd hon?
Archwilio
Yn ystod cam archwilio’r wers mae’r disgyblion yn cynllunio’r hyn y gallent ei wneud ac yn datblygu eu syniadau fel eu bod yn profi ystod mor eang â phosibl o bosibiliadau.
Enghreifftiau o rai o’r cwestiynau y gallai’r disgyblion gael eu hannog i’w gofyn:
- Beth y mae disgwyl i mi/ni/chi ei wneud?
- Ydw i/ydyn ni/ydych chi’n deall y dasg? Beth ddylwn i/ni roi cynnig arno? Beth ydych chi’n mynd i roi cynnig arno?
- Allaf i/allwn ni/allwch chi ei wneud fel hyn?
- Beth arall allaf i/allwn ni/allwch chi roi cynnig arno?
- Beth ydw i/ydyn ni/ydych chi wedi rhoi cynnig arno hyd yn hyn?
- Oes ffordd arall y gallaf i/gallwn ni/gallwch chi wneud hyn?
- Oes posib defnyddio rhan arall o’r corff/gweithred dawns/cyfeiriad/ lefel/ cyflymder/siâp/llwybr?
- A allaf/allwn/allwch wella ansawdd fy/ein/eich perfformiad? Sut gellir gwneud hynny? Beth fyddaf i/ni/chi yn ei wneud?
Cwestiynau heriol
- Ydi hyn yn rhy anodd i mi/ni/chi?
- Sut gallaf i/ni/chi ei wneud yn haws a bod yn fwy llwyddiannus?
- Ydi hyn yn rhy hawdd i mi/ni/chi? Sut gallaf i/ni/chi ei wneud yn anoddach a bod yn fwy llwyddiannus?
- Allwn ni/chi ddefnyddio elfen ddawns wahanol? Unsain/canon/drych/dull bwrdd stori/camau cyferbyniol/ Gweithredu ac Ymateb/ cyswllt / datblygu motiff/pennill-corws/codi ac ati.
Creu
Yng ngham creu’r wers bydd disgyblion yn cynllunio sut maent am ateb y dasg benodol ac yn adlewyrchu ar eu cynnydd tuag at ateb y dasg honno.
Enghreifftiau o rai o’r cwestiynau y gallai’r disgyblion gael eu hannog i’w gofyn:
- Pa gamau gweithredu ydw i/rydyn ni/rydych chi yn eu hoffi orau?
- Pa gamau gweithredu ydw i/rydyn ni/rydych chi yn eu perfformio orau?
- Ydw i/ydyn ni/ydych chi’n deall y dasg? Beth ydw i/rydyn ni/rydych chi’n ei ddeall wrth y dasg? Ydych chi’n meddwl mai dyma a ddisgwylir?
- Pa gamau gweithredu/agweddau sy’n ateb y dasg yn y ffordd fwyaf priodol?
- Beth yw elfennau’r dasg?
- Beth ydw i/rydyn ni/rydych chi’n meddwl y gallwn i/gallwn ni/gallwch chi ei wneud i ateb y dasg? Beth ydw i/rydyn ni/rydych chi’n meddwl fydd yn gweithio’n dda?
- Ydw i/ydyn ni/ydych chi yn bod mor greadigol/dychmygus ag y gallwn ni /gallwch chi?
- Beth sydd angen i mi/ni/chi ei gynnwys? Beth ydw i/ydyn ni/ydych chi wedi ei gynnwys hyd yn hyn? Beth arall sydd angen i mi/ni/chi ei gynnwys?
- Beth sydd angen i mi/ni/chi ei wneud i ateb y dasg yn fwy llwyddiannus? Beth arall sydd angen i mi/ni/chi ei wneud i wella? Allwn i/ni/chi wneud unrhyw beth yn well? Sut gallaf i/ni/chi wneud i chi ateb yn well?
Cwestiynau heriol
- Sut gallaf i/ni/chi fod yn fwy creadigol?
- Allwn ni/chi ddefnyddio elfen ddawns wahanol? Unsain/canon/drych/dull bwrdd stori/camau cyferbyniol/ Gweithredu ac Ymateb/ cyswllt / datblygu motiff/pennill-corws/codi ac ati.
- Ydw i/ydyn ni/ydych chi’n cyfleu fy syniad dawns yn glir? Beth mae’r gynulleidfa yn ei ddeall oddi wrth y gweithredoedd dawns? Sut gallaf i/ gallwn ni/gallwch chi ddod i wybod?
- Sut gallaf i/ni/chi fireinio’r gweithredoedd dawns i gyfathrebu’r syniadau dawns yn fwy effeithiol?
Ymyrryd
Yn y cam ymyrryd yn y wers bydd y disgyblion yn adlewyrchu ar eu cynnydd wrth ateb y dasg hyd yma ac wedyn yn datblygu eu perfformiadau ymhellach yn seiliedig ar yr adlewyrchu hwnnw.
- Beth oedd ffocws y dysgu heddiw?
- Beth sydd angen i mi/ni/chi ei wneud i fod yn llwyddiannus?
- Sut mae fy/ein/eich cynnydd yn cymharu â’r ateb enghreifftiol y tynnwyd sylw ato gan yr athro/athrawes? Beth ydw i/ydym ni/ydych chi’n ei wneud sy’n debyg i’r ateb enghreifftiol? Beth ydw i/ydyn ni/ydych chi’n ei wneud sy’n wahanol i’r model? Oes ots ei fod yn wahanol?
Cwestiynau heriol
- Beth ydw i/ydyn ni/ydych chi’n mynd i’w wneud am y gwahaniaethau?
- Sut gallaf i/gallwn ni/ gallwch chi wneud eich ateb yn debycach i’r model y tynnwyd sylw ato gan yr athro/ athrawes?
- Sut gallaf i/ni/chi wneud fy/ein/eich ateb yn fwy llwyddiannus?
- Sut gallaf i/gallwn ni/ gallwch chi wella fy/ein/eich perfformiad?
- Ai dyma’r gorau y gallaf i /gallwn ni /gallwch chi ei wneud?
- Ydw i/ydyn ni/ydych chi’n barod i berfformio?
- Ydw i/ydyn ni/ydych chi’n hyderus fy mod i/ein bod ni/ eich bod chi yn mynd i fod yn llwyddiannus?
Perfformio
Yng ngham perfformio’r wers nid yw disgyblion yn gofyn unrhyw gwestiynau – maent yn perfformio hyd eithaf eu gallu. Dylid annog y disgyblion i berfformio gydag ymdeimlad o falchder. Gellir datblygu hyn drwy sicrhau bod pob perfformiad yn cael ei werthfawrogi a’i barchu. Mae’r strategaethau perfformio a gwerthuso a nodir yn RECIPE yn hwyluso hyn. Mae’r Dull AGChY o Addysgu Dawns yn annog disgyblion i werthfawrogi eu perfformiadau eu hunain a pherfformiadau disgyblion eraill. Mae hefyd yn eu hannog i wneud sylwadau cadarnhaol ac adeiladol yn unig a fydd yn helpu disgyblion i wneud cynnydd a gwella. Bydd hyn yn hybu hunanhyder a lefelau uwch o hunan-barch a’r gobaith yw y bydd yn galluogi i bob disgybl fwynhau perfformio.
Gwerthuso
Yng ngham gwerthuso’r wers bydd disgyblion yn adlewyrchu ar eu perfformiad ac yn cynllunio sut maent yn mynd i ddatblygu eu perfformiad ymhellach y tro nesaf.
- Pa mor llwyddiannus wnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi ateb y dasg?
- Beth oedd fy/ein/eich cryfderau? Pa agwedd ydw i/ydyn ni fwyaf hapus gyda hi?
- Beth oeddwn i/oedden ni/oeddech chi yn ei hoffi orau am y perfformiad a beth oedd y rheswm dros hynny?
- Pa agweddau ar fy/ein/eich perfformiad atebodd y dasg yn y ffordd fwyaf llwyddiannus?
- Pa ran o’r corff/gweithred dawns/ cyfeiriad/lefel/cyflymder/siâp/llwybr wnes i/wnaethom ni/wnaethoch chi ei gynnwys?
- Pa agweddau ar fy/ein/eich perfformiad atebodd y dasg yn y ffordd leiaf llwyddiannus? Ydw i/ydyn ni/ydych chi’n gwybod sut gallaf i/gallwn ni/gallwch chi wella ar yr agweddau hynny? Os nad ydyn ni’n gwybod, wrth bwy y gallen ni ofyn am help neu ble gallwn ni ddod o hyd i help? Os ydyn ni’n gwybod, sut ydw i/ydyn ni/ydych chi’n mynd i wella’r agweddau hynny? Beth yn union y byddaf/byddwn ni/byddwch chi yn ei ymarfer/ei wella/ei ddiwygio y tro nesaf?
- Beth ydw i/ni/chi wedi ei ddysgu heddiw? Pa effaith gaiff hynny arnaf i/ni/chi yn y dyfodol? O ganlyniad i’r hyn rydw i/rydyn ni/rydych chi’n ei wybod nawr, beth ydw i/ydyn ni/ ydych chi’n mynd i’w wneud?
Cwestiynau heriol
- Pa mor effeithiol oedd fy/ein/eich defnydd o unsain/canon/drych/dull bwrdd stori/camau cyferbyniol/ Gweithredu ac Ymateb/ cyswllt/ datblygiad motiff/ pennill corws/ codi, ac ati?
- Pa mor effeithiol wnes i/ni/chi gyfleu’r syniad dawns? Oedd y gynulleidfa’n gwerthfawrogi eich syniad dawns? Sut ydw i/ydyn ni/ydych chi’n gwybod?
- Wnes i/ni/chi ddawnsio hyd eithaf eich gallu? Oedd y ddawns hon yn adlewyrchu fy/ein/eich gallu chi?
- Pa nodweddion o ba ddisgrifiadau lefel wnes i/ wnaethom ni/ wnaethoch chi eu harddangos? Ar ba sail ydw i/ydyn ni/ ydych chi wedi gwneud y dyfarniad hwn?