RECIPE

ATGOFFA

Yng ngham atgoffa’r wers bydd y disgyblion yn adlewyrchu ar yr hyn a ddysgwyd yn y wers ddiwethaf ac yn cynllunio beth maent yn mynd i fod yn ei wneud yn y wers gyfredol er mwyn parhau i wella eu perfformiad.

Enghreifftiau o rai o’r cwestiynau y gallai’r disgyblion gael eu hannog i’w gofyn:

Cwestiynau heriol

Archwilio

Yn ystod cam archwilio’r wers mae’r disgyblion yn cynllunio’r hyn y gallent ei wneud ac yn datblygu eu syniadau fel eu bod yn profi ystod mor eang â phosibl o bosibiliadau.

Enghreifftiau o rai o’r cwestiynau y gallai’r disgyblion gael eu hannog i’w gofyn:

Cwestiynau heriol

Creu

Yng ngham creu’r wers bydd disgyblion yn cynllunio sut maent am ateb y dasg benodol ac yn adlewyrchu ar eu cynnydd tuag at ateb y dasg honno.

Enghreifftiau o rai o’r cwestiynau y gallai’r disgyblion gael eu hannog i’w gofyn:

Cwestiynau heriol

Ymyrryd

Yn y cam ymyrryd yn y wers bydd y disgyblion yn adlewyrchu ar eu cynnydd wrth ateb y dasg hyd yma ac wedyn yn datblygu eu perfformiadau ymhellach yn seiliedig ar yr adlewyrchu hwnnw.

Cwestiynau heriol

Perfformio

Yng ngham perfformio’r wers nid yw disgyblion yn gofyn unrhyw gwestiynau – maent yn perfformio hyd eithaf eu gallu. Dylid annog y disgyblion i berfformio gydag ymdeimlad o falchder. Gellir datblygu hyn drwy sicrhau bod pob perfformiad yn cael ei werthfawrogi a’i barchu. Mae’r strategaethau perfformio a gwerthuso a nodir yn RECIPE yn hwyluso hyn. Mae’r Dull AGChY o Addysgu Dawns yn annog disgyblion i werthfawrogi eu perfformiadau eu hunain a pherfformiadau disgyblion eraill. Mae hefyd yn eu hannog i wneud sylwadau cadarnhaol ac adeiladol yn unig a fydd yn helpu disgyblion i wneud cynnydd a gwella. Bydd hyn yn hybu hunanhyder a lefelau uwch o hunan-barch a’r gobaith yw y bydd yn galluogi i bob disgybl fwynhau perfformio.

Gwerthuso

Yng ngham gwerthuso’r wers bydd disgyblion yn adlewyrchu ar eu perfformiad ac yn cynllunio sut maent yn mynd i ddatblygu eu perfformiad ymhellach y tro nesaf.

Cwestiynau heriol

Diweddarwyd diwethaf ar 07/11/2023