Cyfarwyddiadau
Mae ‘Camu i’r Ochr’ yn symudiad rhythmig i’r ochr, sy’n golygu trosglwyddo’r pwysau o’r naill droed i’r llall. Mae Camu i’r Ochr yn weithred sydyn sy’n golygu teithio mor gyflym ag sy’n bosibl.
- Sefyll yn yr ystum ‘Parod i Fynd’ gan roi ychydig o bwysau ar belenni neu flaenau’r traed
- Symud i’r dde trwy gamu i’r dde â’r droed dde
- Rhoi’r pwysau ar y droed dde
- Symud y droed chwith tuag at y droed dde
- Wrth i’r ddwy droed ddod at ei gilydd codi’r droed dde i ddechrau’r cam nesaf
- Cadw’r cluniau’n wynebu ymlaen
- Cadw’r pengliniau wedi’u plygu rywfaint trwy gydol y weithred, a chadw craidd disgyrchiant isel
- Symud gan ddefnyddio camau bach cyflym
- Edrych ymlaen a chadw’r pen yn llonydd
- Ailadrodd y weithred gan symud i’r chwith
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch…
- nad oes gwrthrychau ar y llawr
- nad yw’r llawr yn llithrig
Cyfleoedd i ddatblygu
- Sgiliau cydsymud
- Ystwythder
- Sgiliau symud
- Manwl gywirdeb
Os ydych chi'n gweld
| Anhawster | Achos tebygol | Ateb |
|---|---|---|
| Nid yw’n gallu cadw’r patrwm camu am fwy na dau neu dri cham | Mae’n cael trafferth cydsymud y coesau a’r breichiau | Arafu’r weithred a gofyn i’r plentyn ddweud traed gyda’i gilydd, traed gyda’i gilydd yn uchel |
| Nid yw’r weithred yn llifo’n rhwydd | Bydd y symudiad yn ymddangos yn rhanedig i ddechrau wrth i’r plentyn geisio meddwl sut i uno’r cymalau camu | Arafu’r weithred a gofyn i’r plentyn ddweud traed gyda’i gilydd, traed gyda’i gilydd yn uchel |
| Mae’r plentyn yn codi’n uchel iawn yn ystod y weithred | Mae’n plygu’r pengliniau ac yn defnyddio’r breichiau i greu momentwm am i fyny yn lle i’r ochr, mae’n cymryd cam rhy fawr i’r ochr | Dweud wrth y plentyn i aros mor isel ag sy’n bosibl a chadw ei gluniau i lawr trwy gydol y symudiad |
Ydych chi'n gallu gweld?
- y plentyn yn symud yn rhythmig ac yn ddi-dor?
- y plentyn yn symud ar belenni neu flaenau’i draed?
- y plentyn yn cadw’i gluniau’n wynebu ymlaen?
- y plentyn yn cadw’i bengliniau wedi’u plygu trwy gydol y weithred?
- y plentyn yn cymryd camau bach i’r ochr?
- pen y plentyn yn llonydd a’i lygaid yn canolbwyntio ar yr hyn sydd o’i flaen?
-
Rhan amlaf yn anghywir
- Cerdded trwy’r cam
- Sefyll y tu ôl i bartner a chopïo ei symudiadau
- Camu gan symud y naill droed at y llall, gyda’r droed sy’n dod i mewn bron yn symud y droed arall o’r ffordd
-
Cywir ac Anghywir
- Dal dwylo â phartner, a cheisio symud i’r un rhythm
- ‘Camu i’r Ochr’ ar hyd llwybr cul
-
Rhan amlaf yn gywir
- Gweithio gyda phartner, ceisio aros o fewn hyd braich i’r partner wrth i’r partner geisio symud i ffwrdd gyda’r ddau yn ‘Camu i’r Ochr’
- ‘Camu i’r Ochr’ trwy slalom o gonau
- ‘Camu i’r Ochr’ gan amrywio’r cyfeiriad, y llwybr a’r cyflymder
-
Sialens
- ‘Camu i’r Ochr’ i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymder, ac yna mewn ymateb i ystod o symbyliadau
- ‘Camu i’r Ochr’ i gerddoriaeth/curiad cyson
- Defnyddio ‘Camu i’r Ochr’ i ddilyn llwybr ffigur 8, siâp W, siâp M, siâp sgwâr a slalom
- Cyfuno ‘Camu i’r Ochr’, ‘Llamu’, ‘Carlamu’ a ‘Sgipio’ mewn ymateb i ystod o symbyliadau, gan amrywio’r cyfeiriad, y llwybr a’r cyflymder