Carlamu

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Symud
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Cyfarwyddiadau

Mae carlamu’n symudiad di-dor a gaiff ei berfformio am ymlaen neu i’r ochr. Mae’n symudiad anghymesur lle mae’r un droed yn arwain bob tro. Mae carlamu’n rhan o wahanol gêmau sy’n cael eu chwarae ar yr iard chwarae ac yn rhan o rai dawnsiau traddodiadol.

  1. Mae’r traed yn wynebu’r cyfeiriad y mae’r plentyn yn teithio iddo
  2. Camu ymlaen ar y droed sy’n arwain a gwthio i fyny
  3. Dod â’r droed chwith y tu ôl i’r droed dde neu fel arall
  4. Mae blaen y droed ôl yn ‘cripio’ tuag at sawdl y droed flaen
  5. Cadw’r traed yn ysgafn wrth lanio
  6. Ymlacio’r breichiau wrth symud
  7. Symud mewn modd rhythmig di-dor

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch…

  • nad oes gwrthrychau miniog ar y llawr
  • nad yw’r plant yn treulio gormod o amser yn cropian rhag ofn iddynt losgi neu grafu eu croen ar y llawr

Cyfleoedd i ddatblygu

  • Sgiliau cydsymud
  • Rheolaeth
  • Ymwybyddiaeth ofodol
  • Cryfder (arddyrnau ac ysgwyddau)
  • Ymwybyddiaeth o’r corff

Maes Dysgu Datblygiad Corfforol

  • mae’n cyfrannu at yr adrannau sgiliau ‘Personol’ a ‘Chwarae anturus a chorfforol’

Os ydych chi'n gweld

Anhawster Achos tebygol Ateb
Y plentyn yn taro i mewn i wrthrychau Mae’r pen yn edrych ar y llawr Cadw’r pen i fyny
Y plentyn yn methu dal safle’r corff Dim digon o gryfder yn y cyhyrau Cynnal y pwysau ar y penelinoedd
Y plentyn yn simsanu neu’n cwympo Diffyg cydbwysedd a sgiliau cydsymud Defnyddio’r ysgwyddau i greu sylfaen lydan. Atgyfnerthu’r arfer o symud y fraich â’r goes sydd gyferbyn â’i gilydd
Y plentyn ddim yn symud llawer neu ddim yn symud o gwbl Mae’r breichiau’n ceisio tynnu, ond nid yw’n defnyddio’r coesau ddigon Annog y coesau a’r breichiau i gydweithio
Breichiau a choesau’r plentyn yn llusgo ar hyd y llawr Dim digon o hyder i godi’r breichiau oddi ar y llawr Arafu a gor-wneud y weithred

Ydych chi'n gallu gweld?

  • y plentyn yn symud y fraich a’r goes sydd gyferbyn â’i gilydd ar yr un pryd?
  • y plentyn yn cynnal pwysau ei gorff mewn ystum ‘Cath Flin’?
  • breichiau a choesau’r plentyn yn symud i’r un cyfeiriad?
  • y plentyn yn cadw at lwybr syth a chul?
  • penelinoedd y plentyn yn plygu ac yn cynnal rhan uchaf y corff?
  • y plentyn yn tynnu’i goesau tuag at y corff?
  • y plentyn yn tynnu â’i freichiau ac yn gwthio â’i goesau wrth iddo gropian?

  • Rhan amlaf yn anghywir

    • Defnyddio tambwrîn er mwyn i’r plant gael clywed a theimlo rhythm y carlam.
    • Camu ymlaen â’r droed flaen, yna dylai’r droed ôl ‘gripian’ neu ‘lusgo’ i fyny tuag at sawdl y droed flaen. Codi i fyny ar belenni neu flaenau’r ddwy droed.
    • Cerdded ar hyd llinell neu goridor cul o gonau gydag un droed yn arwain a’r droed arall yn llusgo y tu ôl. Dylid annog y plant i gamu ar y droed flaen ac yna ‘llusgo’ neu ‘dynnu’ y goes ôl.
    • Cyflwyno thema trenau, neu gyflwyno cerddoriaeth sydd â rhythm cyson. Ymarfer gwthio’r ddwy fraich ymlaen ac yn ôl yn yr unfan fel olwynion trên yn troi. Gofyn a allant wneud hyn wrth gerdded/teithio o gwmpas yr ystafell.
    • Cerdded ar hyd yr ystafell gan gymryd camau bach a mawr, gan arwain â’r un droed.
  • Cywir ac Anghywir

    • Ceisio cydsymud y breichiau a’r coesau. Wrth stepio ymlaen â’r droed flaen, bydd y ddwy fraich yn symud ymlaen gyda’i gilydd, a bydd y breichiau’n mynd yn ôl wrth i’r droed ôl gyffwrdd â’r llawr. Dylid arwain ag un droed ar y tro.
    • Symud o gwmpas mewn siâp cylch gan garlamu i’r ochr.
  • Rhan amlaf yn gywir

    • Carlamu ag un droed yn arwain, ac yna’r llall.
    • Newid cyfeiriad wrth garlamu.
    • Newid cyflymder wrth garlamu – araf, cyflym, cyflymu a charlamu trwy gwrs rhwystrau
  • Sialens

    • Carlamu i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymder, ac yna mewn ymateb i ystod o symbyliadau
    • Carlamu i gerddoriaeth/curiad cyson
    • Carlamu ar hyd llwybrau ffigur 8, siâp W, siâp M, siâp sgwâr a slalom
    • Cyfuno llamu, carlamu a sgipio mewn ymateb i ystod o symbyliadau, gan amrywio’r cyfeiriad, y llwybr a’r cyflymder

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Carlamu