Milwyr yn Cropian

Wrth i ni ddatblygu

Sgil
Locomotor
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Cyfarwyddiadau

Gweithgaredd Addysgu’r Corff yw ‘Milwyr yn Cropian’ ac mae’n golygu cropian ar y bol â’r breichiau a’r coesau’n symud yn groes i’w gilydd: dylai’r breichiau fod yn tynnu a’r coesau’n gwthio.

  1. Gorwedd ar y bo
  2. Cropian ar y bol gan dynnu â’r breichiau a gwthio â’r coesau, gan
    symud y fraich a’r goes sydd gyferbyn â’i gilydd
  3. Cadw ysgwyddau ‘Cath Flin’
  4. Efallai y bydd angen siglo yn ôl ac ymlaen er mwyn cychwyn y weithred
  5. Symud ymlaen mewn llinell syth

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch…

  • nad oes gwrthrychau miniog ar y llawr
  • nad yw’r plant yn treulio gormod o amser yn cropian rhag ofn iddynt losgi neu grafu eu croen ar y llawr
  • bod y plant yn cropian ar arwyneb meddal os yw’r llawr yn anghyfforddus iddynt

Cyfleoedd i ddatblygu

  • Sgiliau cydsymud
  • Rheolaeth
  • Ymwybyddiaeth ofodol
  • Cryfder rhan uchaf y corff
  • Ymwybyddiaeth o’r corff

Maes Dysgu Datblygiad Corfforol

  • mae’n cyfrannu at yr adrannau sgiliau ‘Personol’ a ‘Chwarae anturus a chorfforol’

Os ydych chi'n gweld

Anhawster Achos tebygol Ateb
Y plentyn oddi ar y llawr Anhawster cydsymud y coesau a’r breichiau Ymarfer â’r plentyn ar ei draed
Y plentyn oddi ar y llawr Amseru gwael Arafu’r weithred a gwneud un cam ar y tro
Y plentyn ddim yn symud ymlaen Methu gafael â’r breichiau a’r coesau Ymarfer cropian â’r corff yn isel ac wedi’i ymestyn

Ydych chi'n gallu gweld?

  • y plentyn yn symud y fraich a’r goes sydd gyferbyn â’i gilydd ar yr un pryd?
  • y plentyn yn gwneud ystum ‘Cath Flin’ â’i ysgwyddau?
  • y plentyn yn cadw at lwybr syth a chul?
  • y plentyn yn ‘tynnu’ â’i freichiau ac yn gwthio â’i goesau?
  • y plentyn yn cadw’n isel ar y llawr?

  • Rhan amlaf yn anghywir

    • Ymarfer y weithred yn sefyll i fyny – ‘Dringo’r Rhaffau
    • Gorwedd ar y bol a defnyddio’r coesau yn unig
    • Ymarfer yr ystum ‘Cath Flin’
    • Yr ymarferwr yn helpu trwy wthio’r coesau’n ysgafn
  • Cywir ac Anghywir

    • Cropian ar hyd llwybr
    • Cropian trwy wrthrychau megis twneli, cylchoedd, bocsys, byrddau trestl
    • Cynyddu’r pellter, amrywio’r cwrs
    • Cropian ar wahanol gyflymder
    • Cropian o amgylch yr ystafell â bag ffa ar y cefn
  • Rhan amlaf yn gywir

    • Cropian ar hyd estyll a meinciau
    • Cropian i wahanol gyfeiriadau
    • Cropian o dan rwyd neu bont isel
    • Cropian o dan bartner sy’n gwneud ystum ‘Cath Flin’ – ‘Llongau a Phontydd’ a ‘Threnau a Thwneli
  • Sialens

    • Cropian fel milwr o dan barasiwt
    • Cropian fel milwr â’r llygaid ar gau
    • Cropian fel milwr i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymder, ac yna mewn ymateb i ystod o symbyliadau

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Milwyr yn Cropian