Ochrgamu

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Body Management
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Cyfarwyddiadau

Mae ochrgamu’n golygu trosglwyddo pwysau’r corff o un droed i’r llall yn gyflym. Caiff ei ddefnyddio i dwyllo gwrthwynebwr, dianc rhag gwrthwynebwr neu osgoi rhwystr. Mae’n bwysig mewn gêmau goresgyn.

  1. Plannu un droed a gwthio oddi arni yn gyflym i newid cyfeiriad (plannu a mynd)
  2. Newid cyfeiriad trwy blygu’r ben-glin a gwthio i ffwrdd ag ochr fas y droed
  3. Camu/gwyro un ffordd a mynd y ffordd arall (ffugio/smalio/esgus)
  4. Cadw’r corff yn isel wrth newid cyfeiriad
  5. Symud yn gyflym
  6. Mae ochrgamu’n digwydd mewn un weithred

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch…

  • fod y plant yn rhedeg â’u pen i fynynad yw’r llawr yn llithrig

Cyfleoedd i ddatblygu

  • Sgiliau cydsymud
  • Cydbwysedd
  • Rheolaeth
  • Ymwybyddiaeth ofodol
  • Ystwythder

Maes Dysgu Datblygiad Corfforol

  • mae’n cyfrannu at yr adrannau sgiliau ‘Personol’ a ‘Chwarae anturus a chorfforol’

Os ydych chi'n gweld

Anhawster Achos tebygol Ateb
Nid yw’r plentyn yn plygu’i bengliniau ddigon ac mae’r pwysau ar un droed yn unig Mae’r corff yn rhy syth wrth i’r plentyn geisio newid cyfeiriad Gwthio i ffwrdd oddi ar un droed a symud i ffwrdd
Traed y plentyn yn croesi Anallu i reoli cyflymder Gosod marciau ar y llawr
Dim ymgais clir i ffugio neu dwyllo Y plentyn yn symud yn araf ac mae’r newid cyfeiriad yn rhy amlwg Chwarae gêmau lle mae’n rhaid i’r plentyn stopio’n gyflym ac ymateb i gyfarwyddiadau a symud
Y plentyn yn methu symud pwysau’r corff o un droed i’r llall Nid yw’r plentyn yn plygu’i bengliniau Gosod marciau ar y llawr. Rhoi’r traed arnynt. Defnyddio arwyddion clywedol i symud o un i’r llall
Y plentyn yn cymryd un neu ddau gam arafu bach cyn newid cyfeiriad Mae’r droed gwthio i ffwrdd mewn llinell syth â’r corff Plannu’r droed y tu allan i linell y corff a gwthio i ffwrdd o’r droed i newid cyfeiriad

Ydych chi'n gallu gweld?

  • y plentyn yn plygu ei bengliniau ac yn gwyro ymlaen ychydig?
  • y plentyn yn gwthio i ffwrdd ag ochr fas y droed?
  • y plentyn yn ffugio/smalio â’i ben a’i ysgwyddau?
  • y plentyn yn newid cyfeiriad yn rhwydd?
  • y plentyn yn dangos symudiad da i’r ochr?

  • Rhan amlaf yn anghywir

    • Gosod marciau ar y llawr. Rhoi’r droed chwith a’r droed dde arnynt. Gan gadw’r un droed ar y marciau, trosglwyddo pwysau o un i’r llall
    • Ymarfer rhagwthio
    • Rhedeg, stopio a newid cyfeiriad ar sŵn y chwiban
  • Cywir ac Anghywir

    • Gosod nifer o gonau tua O.5 metr oddi wrth ei gilydd o amgylch yr ystafell. Gofyn i’r plant symud trwy gynifer o’r clwydi ag y gallant
    • Rhedeg mewn slalom o amgylch y conau, rhedeg mewn slalom oddi mewn i’r conau, rhedeg yn igam ogam o amgylch y conau heb eu cyffwrdd, gan gadw’r pen i fyny
  • Rhan amlaf yn gywir

    • Gosod rhes o farciau yn gyfochrog dros bellter o 5 metr
    • Rhedeg i lawr yr ystafell gan gamu ar y marciau’n unig. Gwthio oddi ar y marciau i newid cyfeiriad
    • Creu cwrs igam ogam â chonau a pholion neu â’r plant eu hunain. Symud trwy’r cwrs mor gyflym ag sy’n bosibl heb gyffwrdd â’r conau neu’r plant a heb daro’r pyst
    • Slalom igam ogam wedi’i amseru
  • Sialens

    • Ochrgamu i wahanol gyfeiriadau ac ar wahanol gyflymder, ac yna mewn ymateb i ystod o symbyliadau
    • Ochrgamu i ddianc rhag amddiffynnwr sydd o’ch blaen, y tu ôl i chi neu wrth eich ochr
    • Ochrgamu i ddianc rhag amddiffynnwr, gan gynnwys esgus, twyllo neu ffugio

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Ochrgamu