Rhagwthio

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Sgil
Body Management
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Cyfarwyddiadau

Mae rhagwthio’n Sgìl Rheoli’r Corff sy’n gofyn am gydbwysedd, cryfder yn rhan isaf y corff a sgiliau cydsymud. Mae rhagwthio’n golygu cymryd cam mawr ymlaen neu i’r ochr a hynny er mwyn rheoli momentwm fel rheol.

  1. Dechrau â’r traed ynghyd, y dwylo wrth ochr y corff a’r llygaid yn edrych am ymlaen
  2. Cymryd cam ymlaen neu i’r ochr gydag un droed yn cymryd pwysau’r corff
  3. Plygu’r ben-glin dros fysedd y traed, gan gadw’r goes arall yn syth
  4. Defnyddio’r breichiau i helpu i gadw cydbwysedd
  5. Cadw’r ddwy droed yn wastad ar y llawr
  6. Dal y safle am 3 churiad

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch…

  • fod y plant yn perfformio’r symudiad â chefn syth ac ysgwyddau ‘Cath Flin’
  • bod y llawr yn sych

Cyfleoedd i ddatblygu

  • Sgiliau cydsymud
  • Cydbwysedd
  • Cryfder
  • Ymwybyddiaeth o’r corff

Maes Dysgu Datblygiad Corfforol

  • mae’n cyfrannu at yr adrannau sgiliau ‘Personol’ a ‘Chwarae anturus a chorfforol’

Os ydych chi'n gweld

Anhawster Achos tebygol Ateb
Y plentyn yn simsanu ac yn colli’i gydbwysedd Mae’r corff yn twistio i’r ochr. Mae’r traed mewn llinell syth, ac nid oes gan y corff sylfaen ddigon llydan Cydio mewn partner neu gadair er mwyn cadw cydbwysedd. Defnyddio marciau i ddangos ble i osod y traed
Y sodlau’n codi oddi ar y llawr Mae’r traed yn rhy bell wrth ei gilydd Defnyddio marciau i ddangos ble i osod y traed

Ydych chi'n gallu gweld?

  • y plentyn yn dal safle rhagwthio sefydlog?
  • y plentyn yn dal y safle heb gwympo?
  • y plentyn yn dangos ystum corff syth?
  • y plentyn yn defnyddio ei freichiau i gadw cydbwysedd?
  • cluniau’r plentyn yn wynebu am ymlaen?

  • Rhan amlaf yn anghywir

    • Ymarfer sefyll yn syth a datblygu ystum corff syth
    • Sefyll â’r breichiau wrth ochr y corff, camu ymlaen ar y droed chwith ac yna ar y droed dde.
    • Gwneud siâp seren ar y mat â breichiau a choesau syth Perfformio’r seren gan orwedd ar y mat ac yna gan sefyll
  • Cywir ac Anghywir

    • Cerdded o gwmpas yr ystafell mewn siâp seren
    • Camu ar y droed chwith a’r droed dde a gwthio’n ôl i’r safle sefyll
    • Sefyll a gwneud siâp seren, yna cymryd cam bach i’r chwith ac i’r dde. Gwthio’n ôl i’r safle sefyll
  • Rhan amlaf yn gywir

    • O’r safle sefyll, dylid camu ymlaen ag un droed, gan geisio camu yn bellach i ffwrdd bob tro gan gadw’r sodlau ar y llawr
    • Sefyll yn syth, codi ar flaenau’r traed a cholli cydbwysedd, tipio ymlaen neu i’r ochr, osgoi cwympo trwy ragwthio ymlaen. Defnyddio’r breichiau i helpu i gadw cydbwysedd. Dal y safle rhagwthio
  • Sialens

    • Rhagwthio ar hyd llinell, camu ymlaen ag un goes ac yna’r llall, ac yna cau’r llygaid ac aros ar y llinell
    • Rhagwthio wrth gerdded, symud ymlaen, symud yn ôl, codi’r pengliniau, codi’r sodlau, cau’r llygaid
    • Rhagwthio gan ddal pêl ar yr un uchder â chanol y corff, twistio i symud y bêl dros y goes sy’n arwain, ailadrodd gan ddefnyddio’r goes arall i arwain, yna cau’r llygaid, yna ymateb i ystod o symbyliadau

Original Resource

Gweld yr adnodd gwreiddiol

Lawrlwytho

Rhagwthio