Symud i mewn i Wagle i Dderbyn Gwrthrych
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Sgil
Manipulative
Campau dŵr
Cyfarwyddiadau
Mae hwn yn sgìl sy’n golygu gwneud penderfyniadau ynghylch pryd a ble i symud i mewn i wagle i dderbyn gwrthrych a sut i wneud hynny’n llwyddiannus. Ystyr tracio yw monitro’r amgylchedd gan ddefnyddio symbyliadau yn sail i weithredu.
- Gwylio/tracio’r chwarae neu’r gwrthrych
- Penderfynu beth fydd y symbyliad i symud
- Bod yn effro ac yn yr ystum ‘Parod i Fynd’ er mwyn gallu ymateb cyn gynted ag y bydd y symbyliad yn dod
- Symud i wagle cyn gynted ag sy’n bosibl pan ddaw’r symbyliad, ond gan dracio’r amgylchedd ar hyd yr amser
- Os yw’r ymgais yn aflwyddiannus, rhaid ail-leoli er mwyn adweithio eto pan fydd hynny’n briodol
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch…
- nad oes gwrthrychau ar y llawr
- nad yw’r llawr yn llithrig
Cyfleoedd i ddatblygu
- Sgiliau cydsymud
- Ystwythder
- Cydbwysedd
- Sgiliau symud
- Canolbwyntio
- Manwl gywirdeb
Os ydych chi'n gweld
| Anhawster | Achos tebygol | Ateb |
|---|---|---|
| Y plentyn yn symud yn rhy gynnar | Mae’n ceisio achub y blaen, mae’n rhy awyddus | Annog y plentyn i adnabod yr hyn y mae’n aros i’w weld neu ei glywed |
| Y plentyn yn ymateb yn rhy araf | Nid yw yn yr ystum ‘Parod i fynd’, neu nid yw’n ymwybodol o’r symbyliadau perthnasol | Annog y plentyn i fynd i’r ystum ‘Parod i Fynd’ ac ymarfer adweithio i wahanol symbyliadau |
| Y plentyn yn sigledig | Nid yw’n cynnal sadrwydd craidd cryf | Pwysleisio pwysigrwydd ystum corff cryf, megis ystum ‘Dal y Llygoden’ |
Ydych chi'n gallu gweld?
- y plentyn yn tracio’r amgylchedd?
- y plentyn yn bod yn effro/ymwybodol?
- y plentyn yn yr ystum ‘Parod i Fynd’?
- y plentyn yn ymateb yn gyflym wrth sylwi ar symbyliadau?
- y plentyn yn symud ar yr adeg ‘gywir’?
- y plentyn yn symud i mewn i wagle’n effeithiol?
- y plentyn yn derbyn y gwrthrych yn llwyddiannus?
-
Rhan amlaf yn anghywir
- Cerdded trwy’r broses gan ddefnyddio symbyliadau amlwg, annog y plentyn i symud tuag at y gwrthrych
- Annog y plentyn i ddweud rhywbeth pan fydd yn sylwi ar y symbyliadau
-
Cywir ac Anghywir
- Chwarae ‘Mae Seimon yn dweud’, lle na all y plant symud oni bai eu bod yn cael symbyliad i wneud hynny
- Symud o gwmpas mewn gwagle a gwneud gweithred benodol neu symud i mewn i wagle mewn ymateb i symbyliadau
-
Rhan amlaf yn gywir
- Gweithio mewn parau lle bydd un plentyn yn ‘bwydo’ ac yn aros yn yr unfan, ac un plentyn yn ymosod. Pan roddir symbyliad penodol bydd yr ymosodwr yn symud i mewn i wagle i dderbyn gwrthrych gan y plentyn sy’n bwydo
- Gweithio mewn grwpiau o dri lle bydd dau blentyn yn bwydo ac yn aros yn yr unfan, ac un plentyn yn ymosod. Pan roddir y symbyliad bydd yr ymosodwr yn symud i’r gwagle ‘cywir’ i dderbyn y gwrthrych
-
Sialens
- Pifodi ar bwys marciwr i greu gwagle i symud i mewn iddo
- Ychwanegu amddiffynnwr, i fod yn oddefol yn gyntaf ac yna’n weithredol, sy’n ceisio atal yr ymosodwr rhag derbyn y gwrthrych
- Sicrhau bod y plentyn yn symud i’r chwith ac i’r dde
- Cyfuno ‘Ochrgamu’, ‘Pifodi’ a ‘Thraed Chwim’ i symud i mewn i wagle i dderbyn gwrthrych mewn ymateb i ystod o symbyliadau, gan amrywio’r cyfeiriad, y llwybr a’r cyflymder