Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Gosodwch rwystrau i’r plant eu goresgyn
- Anogwch y plant i symud i wahanol gyfeiriadau
- Helpwch y plant i ddatblygu dealltwriaeth o eiriau allweddol
- Bydd y plant naill ai’n casglu dreigiau/wyau neu’n ceisio eu gweld
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch bod yr arwynebau’n ddiogel i gropian arnynt
Sicrhewch mai tri neu bedwar plentyn sydd i bob rhwystr
Anogwch y plant i:
- symud yn araf i ddechrau
- cymryd eu tro a pheidio â chiwio
- gwrando ar gyfarwyddiadau
- plygu eu pengliniau wrth lanio pan fyddant yn neidio oddi ar gyfarpar
Cyfleoedd i
- ddefnyddio cyfarpar isel wrth ymarfer teithio, neidio a glanio
- dringo dros rwystrau
- neidio i lawr oddi ar wrthrychau isel
Cwestiynau
- Pryd symudoch chi tuag yn ôl?
- Allech chi symud tuag yn ôl yn unrhyw le arall?
- Ble gwnaethoch chi hercian?
- A gymeroch chi eich tro?
- Pa rwystrau rydych chi’n eu hoffi fwyaf, a pham?
- Pa rwystr sydd fwyaf anodd i chi, a pham?
- Ble gwelsoch chi ŵy?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn defnyddio cyfarpar isel wrth ymarfer teithio, neidio a glanio?
- Yn dringo dros rwystrau?
- Yn neidio i lawr oddi ar wrthrychau isel?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- arddangos mwy nag un ffordd o oresgyn pob rhwystr
- goresgyn un rhwystr trwy symud tuag ymlaen, rhwystr arall trwy symud tuag yn ôl, ac un arall trwy symud i’r ochr
- ychwanegu darn arall o gyfarpar
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- ddewis un neu ddau ddarn o gyfarpar i weithio arnynt
- gafael yn eich llaw
- eich dilyn chi wrth i chi ei arwain
- ymarfer sgiliau gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol
Trafodwch â’r plentyn wrth iddo ddringo, a cheisiwch adnabod mannau lle gall roi ei ddwylo a’i draed