Chwilio am Wyau’r Ddraig

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Crëwch gwrs rhwystrau gan ddefnyddio unrhyw offer priodol sydd ar gael
  • Cuddiwch wrthrychau o gwmpas y cwrs
  • Trefnwch y plant yn dimau o bedwar i gwblhau’r cwrs fel ras gyfnewid lle mae’r naill yn dechrau y tu ôl i’r llall (fel y ras gyfnewid 100 metr) gan gasglu cynifer o wrthrychau ag sy’n bosibl

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod pawb yn gwybod sut i gwblhau’r cwrs yn ddiogel
  • eich bod yn gwneud y trefniadau angenrheidiol os byddwch yn symud i leoliad newydd
  • bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn fel y bo’n briodol

Cyfleoedd i

  • gynnal gweithgarwch am gyfnodau priodol
  • dechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb a dechrau deall y risgiau cysylltiedig
  • cydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gydag eraill
  • dechrau gofyn cwestiynau perthnasol er mwyn gwella a gwneud cynnydd
  • gweithio fel tîm
  • datblygu sgiliau arsylwi

Cwestiynau

  • Pa ran o’r cwrs roeddech chi wedi’i mwynhau fwyaf?
  • Pa ran o’r cwrs oedd anoddaf?
  • Beth allech chi ei ymarfer i’ch helpu i gwblhau’r cwrs yn haws?
  • Beth wnaethoch chi i sicrhau bod aelodau’ch tîm yn gweithio’n dda gyda’i gilydd?
  • Beth allech chi ei wneud fel tîm i weithio gyda’ch gilydd yn fwy effeithiol y tro nesaf?
  • Pe baech yn gallu newid y cwrs, beth fyddech chi’n ei newid a pham?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Newidiwch y canlynol:

  • Lle

    • trefn y cwrs – ychwanegu nodweddion newydd, ailadrodd rhai adrannau
  • Tasg

    • man cychwyn – pawb i ddechrau o’r un man (fel ras gyfnewid 400 metr)
    • y modd y mae’n rhaid i’r cyfranogwyr deithio, a’r cyfeiriad y maent yn teithio iddo
    • y system sgorio – gwahanol bwyntiau ar gyfer gwahanol wrthrychau, ystyried defnyddio system bwyntiau ddirgel
  • Offer

    • maint yr offer – mwy o faint, llai o faint, is, uwch, mwy llydan, mwy cul, mwy hir ac ati
  • Pobl

    • y rhan o’r cwrs y mae’r cyfranogwyr yn ei chwblhau, caniatáu i’r cyfranogwyr ddewis pa ran y byddant yn ei chwblhau
    • y dull o gwblhau’r cwrs – mewn parau neu grwpiau o bedwar sydd wedi’u cysylltu mewn rhyw fodd, gan sicrhau bod pawb yn ddiogel