Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Darllenwch rannau o’r stori/chwaraewch rannau o’r stori a adroddir
- Anogwch y plant i archwilio hwyliau a theimladau gan ddefnyddio symudiadau syml. Er enghraifft, Megan yn cerdded yn ôl i’r tŷ ar ôl i’r ddraig hedfan i ffwrdd, neu Megan yn cerdded o amgylch y lle â’r ddraig yn gwingo ac yn wiglo yn ei phoced
- Crëwch gymal byr o symudiadau gan ddefnyddio gweithrediadau dawns sylfaenol – teithio, troi, neidio, ystum a llonyddwch
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’
Cyfleoedd i
- ddatblygu symudiadau i ymateb i wahanol symbyliadau
- dechrau archwilio a mynegi hwyliau a theimladau trwy symudiadau
- symud mewn gwahanol ffyrdd, gan greu siapiau amrywiol â’r corff a newid cyfeiriad
Cwestiynau
- Yn eich barn chi, sut roedd y ddraig yn teimlo pan laniodd ar y gwair gwlyb?
- Sut gallwch chi ddangos hynny yn eich gweithrediadau dawns?
- Sut gallwch chi ddangos y gwahaniaeth rhwng y ddraig yn pwnio trwy’r plisgyn ac yn ymestyn?
- Sut gallwch chi newid y cyfeiriad a’r lefel i wneud eich dawns yn fwy diddorol?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn datblygu symudiadau i ymateb i wahanol symbyliadau?
- Yn dechrau archwilio a mynegi ystod o hwyliau a theimladau trwy symudiadau?
- Yn symud mewn gwahanol ffyrdd, gan greu siapiau amrywiol â’r corff a newid cyfeiriad?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- ddefnyddio mwy nag un cyfeiriad
- trafod siapiau’r corff, a thrafod pryd a sut gellid eu defnyddio
- perfformio ei weithrediadau am fwy o amser
- dychmygu beth sy’n digwydd rhwng rhai o’r digwyddiadau yn y stori, a chreu gweithrediadau i fynegi’r digwyddiadau hynny
- trafod ansawdd ei symudiadau, e.e. sut byddai Megan yn cerdded yn ôl i’r t ŷ: yn gyflym, yn araf, â chamau ysgafn, â chamau trwm, ac ati
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- ganolbwyntio ar ei hoff air
- ymarfer wrth iddo ddatblygu sgiliau Symud gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol. Sut gallai addasu’r gweithrediadau hyn fel eu bod nhw’n cysylltu â’r stori?
- gwylio plant eraill i gael syniadau. Gofynnwch beth mae’n ei hoffi? Sut gallai wneud hynny’n wahanol?
- trafod rhai o’r hwyliau a’r teimladau sydd yn y llyfr. Sut mae’n teimlo pan fydd yn drist? Sut gallai ddweud bod Megan yn drist wrth edrych ar y llun?