Dawns y Ddraig

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Gofynnwch i’r plant greu, ymarfer a pherfformio cymalau byr sy’n cyfleu/mynegi agweddau penodol ar y stori

Anogwch y plant i:

  • ddefnyddio’r Dull Bwrdd Stori i uno cymalau byr o symudiadau â’i gilydd i greu dawns sydd â dechrau, canol a diwedd
  • gor-wneud eu symudiadau gymaint ag sy’n bosibl, gan ddefnyddio ystum ac eiliadau o lonyddwch

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn gweithio mewn ‘gerddi’

Cyfleoedd i

  • fynegi syniadau trwy ystod o symudiadau
  • cysylltu cyfres o weithrediadau â’i gilydd â pheth rhwyddineb i greu cymal dawns
  • ailadrodd cymalau
  • cynnwys ystum ac eiliadau o lonyddwch i wella mynegiant

Cwestiynau

  • Beth roeddech chi’n ei hoffi, a pham?
  • Sut a phryd defnyddioch chi ystum a llonyddwch?
  • Ym mha ffordd arall gallech chi ddefnyddio’r rhain?
  • Sut mae’r rhain yn eich helpu i adrodd eich stori?
  • Sut gallwch chi gysylltu’r ‘dechrau’ â’r ‘canol’ yn llyfn?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn mynegi syniadau trwy ystod o symudiadau?
  • Yn cysylltu cyfres o weithrediadau â’i gilydd â pheth rhwyddineb i greu cymal dawns?
  • Yn ailadrodd cymalau?
  • Yn cynnwys ystum ac eiliadau o lonyddwch i wella mynegiant?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • wneud pob adran yn hwy neu’n fwy diddorol, trwy ychwanegu mwy o weithrediadau neu gynnwys newidiadau o ran cyfeiriad, lefel, cyflymder, llwybr, ac ati
    • ailadrodd pob adran â safleoedd dechrau a gorffen clir
    • gwrando ar y cyfeiliant ac ymateb yn briodol iddo
    • dawnsio’n gyfun â phartner (â’r ddau’n actio rhan y ddraig, y ddau’n actio rhan Megan, neu un ohonynt yn actio rhan y ddraig a’r llall yn actio rhan Megan) gan berfformio cymal ‘Copïo’, ac ati
    • trafod ansawdd ei symudiadau, e.e. sut gall ddangos y gwahaniaeth rhwng hedfan a llamu?
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • ddefnyddio lluniau o’r stori i greu dilyniant/bwrdd stori i’w helpu i greu cymal/motiff/dilyniant
    • trafod pa syniadau/geiriau/lluniau o’r stori y byddai’n hoffi eu cynnwys fel ystum neu eiliadau o lonyddwch, a gweithio ar y rhain a datblygu gweithrediadau teithio i’w cysylltu nhw â’i gilydd
    • datblygu ‘ciwb symudiadau’ fel ei fod yn dewis amrywiaeth o wahanol eiriau y mae’n eu hoffi. Yna, bydd y plentyn yn defnyddio’r ciwb i’w helpu i gyflwyno’i weithrediadau ar ffurf dilyniant
    • gwylio dawnsiau plant eraill. Gofynnwch iddo ddewis y symudiadau y mae’n eu hoffi ac y byddai’n gallu eu cynnwys yn ei gymal ei hun
    • trafod pa eiriau y byddai’n hoffi eu mynegi/cyfleu, a pha weithrediadau y gallai eu defnyddio i ddangos y geiriau hynny
    • dweud y gair wrtho’i hun wrth symud