Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Gofynnwch i’r plant ddilyn y llwybr gan ddefnyddio lluniau/geiriau’n gliwiau i gyrraedd y lleoliad neu’r gwrthrych nesaf
- Gofynnwch i’r plant gasglu gwrthrych o bob lleoliad neu baru symbol/siâp â lleoliad, e.e. gall y plant weld triongl yn y tŷ bach twt, ac felly byddant yn tynnu llun neu’n gosod triongl wrth ei ymyl
- Gofynnwch i’r plant ddarganfod y cliw er mwyn symud ymlaen i’r lleoliad nesaf
- Gofynnwch i’r plant geisio darganfod y cliwiau/atebion i gyd cyn gynted ag y gallant
- Crëwch draeth/golygfa arall o’r byd, ac anogwch y plant i chwilio am gliwiau ar gyfer pethau y gallent eu gweld yn y lle hwnnw
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn symud yn ddiogel wrth geisio symud cyn gynted ag y gallant
- bod y plant yn gweithio’n unigol, mewn parau neu mewn grwpiau bach
Cyfleoedd i
- gofnodi eu harsylwadau gan ddefnyddio symbolau neu luniau
- tynnu llun map syml
- adnabod, enwi a pharu siapiau 2D cyffredin
- defnyddio iaith ynghylch safle
Cwestiynau
- Llun o beth allai hwn fod?
- Disgrifiwch beth rydych chi’n ei weld. Ble rydych chi wedi’i weld o’r blaen?
- Ble rydych chi wedi edrych?
- Beth welsoch chi y tu ôl i’r wal?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn cofnodi ei arsylwadau gan ddefnyddio symbolau neu luniau?
- Yn tynnu llun map syml?
- Yn adnabod, yn enwi ac yn paru siapiau 2D cyffredin?
- Yn defnyddio iaith ynghylch safle?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
- Anogwch y plentyn i dynnu llun map a marcio’i lwybr arno, gan labelu’r hyn a welodd ym mhob lleoliad
- Gofynnwch i’r plentyn adnabod ac enwi siapiau 2D llai cyffredin
- Gofynnwch i’r plentyn adnabod ac enwi siapiau 3D cyffredin
- Amserwch y plentyn i weld pa mor gyflym y gall gwblhau’r llwybr
-
Weithiau
- Symudwch o gwmpas y llwybr gyda’r plentyn, gan ddefnyddio iaith ynghylch safle i ofyn cwestiynau i’w helpu i chwilota a darganfod cliwiau
- Defnyddiwch ffotograffau i greu map ar ffurf collage
- Symudwch ar hyd y llwybr gyda’r plentyn, a helpwch e’ ag unrhyw gwestiwn a allai fod ganddo• Defnyddiwch storïau, cerddi, lluniau, rhigymau a rapiau i helpu’r plant i enwi ac adnabod siapiau