Llwybr Lluniau
Wrth i ni ddod yn fwy medrus
Gweithgaredd
Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Lluniwch lwybr sy’n cynnwys nifer fawr o gliwiau dros ardal eang
- Anogwch y plant i deithio o un cliw i’r llall cyn gynted ag y gallant
- Rhowch bethau i’r plant chwilio amdanynt neu gwestiynau i’w hateb/problemau i’w datrys ym mhob lleoliad
- Gofynnwch i’r plant gystadlu fel tîm i ddatrys y problemau
- Gwnewch y llwybr yn hirach yn raddol
- Cyflwynwch y cysyniad o amseru’r llwybr
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn symud yn ddiogel wrth geisio symud cyn gynted ag y gallant
- bod y plant yn gweithio mewn grwpiau bach
- eich bod chi’n gallu gweld y plant i gyd bob amser
Cyfleoedd i
- gynnal gweithgarwch am gyfnodau hwy
- cydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gyda phobl eraill
- adnabod a disgrifio sut mae eu hanadlu’n newid a sut maent yn edrych ac yn teimlo wrth wneud ymarfer corff
Cwestiynau
- P’un yw’r ffordd gyflymaf o gyrraedd y cliw nesaf?
- Pam mae’n bwysig bod yn ddiogel, hyd yn oed pan fyddwch chi’n ceisio symud cyn gynted ag sy’n bosibl?
- Sut roeddech chi’n teimlo tua diwedd y llwybr?
- Beth ddigwyddodd i’ch anadlu?
- Beth ddigwyddodd i gyflymder curiad eich calon?
- Beth allech chi ei wneud i’ch helpu chi i redeg yn gyflymach y tro nesaf?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn cynnal gweithgarwch am gyfnodau hwy?
- Yn cydweithio i ddatrys problemau wrth weithio gyda phobl eraill?
- Yn adnabod ac yn disgrifio sut mae ei anadlu’n newid a sut mae’n edrych ac yn teimlo wrth wneud ymarfer corff?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
- Amserwch y plentyn wrth iddo gwblhau’r llwybr – cofnodwch yr amser a gofynnwch i’r plentyn geisio’i wella y tro nesaf
- Gofynnwch i’r plant gasglu gwrthrychau o leoliad pob cliw, y gellir eu defnyddio mewn tasg sy’n dilyn, e.e. llythrennau i greu gair, rhifau i wneud swm, siapiau neu ddarnau i gwblhau pos, ac ati
- Anogwch y plentyn i nodi pam mae’r newidiadau’n digwydd i’w gorff
- Gofynnwch i’r plant greu eu cliwiau/ llwybr eu hunain
- Defnyddiwch Gardiau Dysgu Awyr Agored 2OO9
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- gerdded pan fo angen a cheisio rhedeg am o leiaf 30 eiliad cyn cerdded eto
- canolbwyntio ar un agwedd ar y tro, e.e. wyneb coch, anadlu’n drwm neu’n ddyfnach. Gofynnwch iddo deimlo curiad ei galon a gwrando ar rywun arall yn anadlu, ac ati
- cydweithio â phlant eraill drwy weithio gyda nhw